Synwyryddion digidol yn Wrecsam er mwyn casglu data ar ymwelwyr y ddinas
Mae Wrecsam wedi dechrau defnyddio synwyryddion digidol er mwyn mesur faint o bobol sy’n ymweld â’r ddinas, eu defnydd o feysydd parcio, a safon yr aer.
Mae’r cyngor yn gobeithio y bydd y dechnoleg o ddefnydd wrth wella profiad pobol sy’n ymweld â’r ddinas.
Gallai synwyryddion sy’n mesur sŵn hefyd gael eu defnyddio er mwyn darganfod lle yn y ddinas mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd.
Mae synwyryddion wedi eu gosod mewn wyth man yn y ddinas gan gynnwys y Stryd Fawr a rhodfa maes parcio Llyfrgell Wrecsam.
Mae tref Aberteifi yng Ngheredigion eisoes yn gwneud defnydd o’r dechnoleg.
Bydd adroddiad cychwynnol gan y Cynghorydd Nigel Williams sy’n arwain ar yr economi ac adfywio yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad yr wythnos nesaf.
“Wrth i dueddiadau ddechrau dod i’r amlwg, gellir casglu data ar fusnesau llwyddiannus a phennu dull ‘beth sy’n gweithio’ ar gyfer canol y ddinas,” meddai’r adroddiad.