Hudson 'cant y cant' yn sicr na fydd Warnock yn ddychwelyd i hyfforddi Caerdydd
Mae hyfforddwr CPD Dinas Caerdydd, Mark Hudson wedi dweud na fydd Neil Warnock yn dychwelyd i'r clwb.
Cyhoeddodd Warnock ei fod yn ymddeol o fod yn hyfforddwr yn Ebrill 2022, wedi iddo gymryd rheolaeth o dros 1,000 o gemau mewn gyrfa 42 o flynyddoedd o hyd.
Wrth i bwysau gynyddu ar Hudson, a gafodd ei benodi yn hyfforddwr ar Gaerdydd ym mis Tachwedd y llynedd, roedd awgrym y gallai Warnock ddychwelyd i'r brifddinas yn hyfforddwr unwaith eto.
Warnock oedd hyfforddwr yr Adar Gleision rhwng 2016 a 2019 gan eu harwain i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018, yr eildro iddynt chwarae yno.
Ond dywedodd Hudson ei fod wedi cael sicrwydd gan gadeirydd y clwb Mehmet Dalman, bod y sôn y gallai Warnock ddychwelyd "100 y cant ddim yn wir".
'Ffocws ar y swydd'
Mewn cynhadledd cyn gêm Caerdydd yn erbyn Leeds yng Nghwpan yr FA dydd Sul, dywedodd yr hyfforddwr bod ei fod yn canolbwyntio ar ei swydd.
"Rydw i wedi bod yn y byd pêl-droed am amser hir. Dyfalu yw dyfalu a dyw hynny ddim am fy atal rhag canolbwyntio ar fy swydd.
"Fy swydd i ydi ennill y canlyniadau cywir, a does dim ots gen i am bobol eraill yn dyfalu am fy nyfodol."
"Fy swydd i yw canolbwyntio ar y gêm yma, ac wedyn edrych ymlaen at gêm fawr yn erbyn Wigan."