David Anderson yn rhoi’r gorau i’w rôl fel cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru

David Anderson
David Anderson

Bydd David Anderson yn rhoi’r gorau i’w rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill eleni, ac yntau wedi arwain y corff ers 2010.

O fis Ebrill ymlaen, bydd David yn Gymrawd Emeritws yn Amgueddfa Cymruac yn Athro Gwadd yng Nghanolfan Lywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, ei fod wedi gwneud “cyfraniad sylweedol” at yr amgueddfa.

“Mae wedi goruchwylio gweddnewid Sain Ffagan yn amgueddfa hanes genedlaethol i Gymru yn ogystal â datblygu rhaglenni a gwaith ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ehangu rôl amgueddfeydd mewn cymdeithas,” meddai.

“Mae hefyd wedi cyfrannu at roi cyfeiriad strategol clir i Amgueddfa Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gyda strategaeth 2030 a'i chwe addewid yn creu sylfeini cadarn i’r Amgueddfa wasanaethu cymunedau Cymru a datblygu ei rôl ar y llwyfan rhyngwladol.”

‘Holl gymunedau Cymru’

Dan gyfarwyddiaeth David Anderson pwysleisiodd yr Amgueddfa ei bod yn gefnogwr cadarn o gydraddoldeb hiliol a chydraddoldebau eraill.

Dywedodd mai ymhlith ei uchafbwyntiau oedd arddangosfa KIZUNA yn 2018 gyda chasgliadau o Amgueddfeydd Cenedlaethol Japan yn serennu, ac arddangosfa Bywyd Richard Burton yn 2021.

“Fy neuddeg mlynedd yn Gyfarwyddwyr Cyffredinol yn Amgueddfa Cymru fu’r mwyaf gwerth chweil o fy ngyrfa broffesiynol,” meddai David Anderson.

“Rwyf wedi bod yn hynod ffodus i weithio gyda chynifer o staff creadigol, ymroddedig ac ysbrydoledig yn yr Amgueddfa, y mae eu hymroddiad i’r sefydliad yn amlwg i bawb sy’n ymweld â’n hamgueddfeydd.

“Mawr yw fy niolch hefyd i’r Ymddiriedolwyr hynny sydd wedi rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn anhunanol a heb ystyriaeth i’w budd personol i’n Bwrdd, er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn parhau yn sefydliad cenedlaethol cadarn ac annibynnol.”

“Ein Strategaeth 2030 newydd, sy’n seiliedig ar waith ymgynghori â bron i 1,000 o bobl ar draws Cymru, ac a lywiwyd gan ein gwaith yn ystod pandemig COVID pandemic, yw ein datganiad o ymroddiad i’r genedl.

“Yn hynny o beth, rydym yn ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynrychioli holl gymunedau Cymru, trwy ein staff, arddangosfeydd ac orielau; i gynnig cyfleoedd i bawb ddysgu a bod yn greadigol; ac i ofalu am fyd natur ac amgylchedd Cymru.”

Ychawnegodd: “Edrychaf ymlaen yn fawr at gefnogi’r Amgueddfa, sefydliad cenedlaethol tra hoff a drysorir, i wireddu’r uchelgeisiau hyn dros y blynyddoedd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.