Gallai gwaith ailddechrau ar Fynydd Parys Ynys Môn 'ymhen rhai blynyddoedd'
04/01/2023Gallai gwaith ailddechrau ar Fynydd Parys Ynys Môn 'ymhen rhai blynyddoedd'
Mae cwmni mwyngloddio ym Môn yn dweud eu bod nhw'n fwy hyderus nag erioed o'r blaen y gallai cronfeydd copr gael eu mwngloddio ar Fynydd Parys ger Amlwch ymhen rhai blynyddoedd.
Yn ystod y deunawfed ganrif mi oedd Mynydd Parys ger Amlwch yn allforio copr i ben draw’r byd, ac fe amcangyfrifir i 3.3 miliwn tunnell o gopr gael eu hallforio.
Yn ôl perchenogion y safle, Anglesey Mining mae archwiliadau diweddar wedi dangos cronfeydd mawr o gopr a sinc a'u maint yn fwy na’r disgwyl.
Mae’r cwmni’n dweud os y bydd archwiliadau pellach yn ffafriol fe allai penderfyniad ar ddatblygiad y safle gael ei wneud mewn blwyddyn.
Mae Mynydd Parys yn safle un o gronfeydd copr mwyaf Prydain sydd eto i gael ei gloddio ymhellach.
'Cam i’r cyfeiriad cywir'
Fe gafodd mwynau fel sinc, aur ac arian hefyd eu canfod - ac yn ôl Prif Weithredwr Anglesey Mining, Jo Battershill mae’r safle yn cynnig addewid i’r ardal.
Mae’n dweud y gallai swyddi hefyd gael eu creu ar gyfer pobl leol pe bai archwiliadau pellach yn ffafriol.
“Dwi’n croesawu'r newyddion," meddai Cynghorydd lleol yr ardal Aled Morris Jones.
“Dwi’n gobeithio y bydd y newyddion da yn parhau, dwi yn ffyddiog a ma hwn yn bositif - da ni heb glywed newyddion positif yn dod o’r mynydd ers blynyddoedd.
“Mae'n gam i’r cyfeiriad cywir."
Gyda’r gobaith o swyddi erbyn canol y ddegawd, fe ddywedodd y Cynghorydd Jones fod hi’n bwysig y bydd y gymuned leol hefyd yn gweld budd.
“Mae’n hollbwysig bod pobl leol yn cael budd ac mae’n amlwg fod y cwmni yn sylwi hynny”.
Mae caniatâd cynllunio wedi ei gadarnhau ar gyfer y safle ond bydd angen sicrhau caniatâd pellach, archwiliadau amgylcheddol a chyllid pellach.
'Pwysigrwydd hanesyddol'
Yn ôl y cwmni mi fydd unrhyw waith pellach yn cael ei wneud dan wyneb y tir ac mi fydd y safle poblogaidd dal ar gael i gerddwyr.
Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Mon fod gan y safle “bwysigrwydd hanesyddol o ran mwyngloddio”.
“Rydym yn gefnogol mewn egwyddor, o ail ddechrau gweithgareddau mwyngloddio yno - yn amodol ar gydymffurfiaeth o gloddfa gyda safonau amgylcheddol uchel a sicrhau buddion i’r gymuned leol”.
