Newyddion S4C

Streic arholwyr gyrru: 'Dyw'r amser ddim yn iawn'

04/01/2023

Streic arholwyr gyrru: 'Dyw'r amser ddim yn iawn'

Bydd arholwyr gyrru ar draws y Deyrnas Unedig yn streicio ddydd Mercher mewn anfodlonrwydd ynglŷn â thâl, amodau gwaith a phensiynau.

Ond mae hyfforddwr gyrru o’r gogledd yn cwestiynu “os mai hwn yw'r amser iawn” i streicio.

Mae'r streic yn rhan o weithredu diwydiannol gan undeb y gweithwyr cyhoeddus a masnachol - y PCS.

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a’r Asiantaeth Taliadau Gwledig ymhlith nifer o adrannau’r llywodraeth a bleidleisiodd i streicio dros gyflogau a thelerau eraill.

Mae'r PCS yn galw am godiad cyflog o 10%. Maent hefyd eisiau gwell pensiynau, sicrwydd swydd a dim toriadau i delerau diswyddo.

Ond yn ôl y llywodraeth mae gofynion yr undeb yn "anfforddiadwy".

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Rhydian Hughes sy’n hyfforddwr gyrru ym Mhentrefoelas bod y streicio am achosi fwy o oedi i ddisgyblion ar ôl cyfnod Covid-19.

“Pan oedda ni’n cael rhyw fath o drefn ers Covid-19, man edrych fel bydd ‘na ddisgwyl i’r disgyblion neud profion.

“Y gwir ydy, oedda’n ni mewn argyfwng adeg Covid, o’n i methu gweithio felly dwi wedi goro dioddef ac ti’n cyrraedd rhyw safbwynt lle ti’n meddwl bod pethau yn dechrau dod yn nôl i normal a ma’ profion yn cael eu gwneud ond wedyn ma’ hyn yn digwydd.

“Mae o yn rhoi knock-on effect i fy nisgyblion ac i bobl sydd eisiau dechrau. Dwi’n gorfod deutha nhw ddisgwyl gan bo’ fi’n trio sortio criw ddaru orfod disgwyl adeg Covid.”

Image
S4C
Rhydian Hughes. 

'Cydymdeimlo' 

Mae Mr Hughes yn cydymdeimlo gyda’r bobl ifanc sydd methu sefyll eu profion oherwydd y streicio.

“Fel rhywun sy’n gweithio yn annibynnol fel athro gyrru mae yna lot o drio cadw cwsmeriaid rhag meddwl ‘oes 'na bwynt disgwyl’ ac wrth gwrs mae o mynd i gostio mwy iddyn nhw hefyd o ran costau gwersi.

“Mae o yn amser costus i ddisgyblion a dwi’n cydymdeimlo efo nhw yn fawr iawn.

“Pan wyt ti’n 17 a bron a marw isio pasio dy brawf gyrru a bod yn fwy annibynnol a lot yn meddwl mynd i’r brifysgol ond mae 'na aros am y profion.

“Felly'r unig beth allai neud ydi ymddiheuro a disgwyl, ond mae ‘na bach o honna fi yn teimlo os mai hwn ydy’r amser cywir i ddechrau streicio?”

Dywedodd Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol y PCS, bod y streiciau yn rhan o’r “gweithredu diwydiannol anoddaf y bydd y llywodraeth yn ei wynebu ers degawdau”. Ychwanegodd y byddan nhw’n “achosi llawer iawn o aflonyddwch”.

“Ni fydd y llywodraeth, sydd wedi treulio blynyddoedd yn troi llygad ddall at ein gofynion cyflog, bellach yn gallu ein hanwybyddu,” meddai.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae disgyblion ysgolion gyrru wedi gorfod aros yn hir am brofion oherwydd prinder arholwyr a hyfforddwyr. Bu galw uwch hefyd am brofion oherwydd effaith Covid-19.

Ym mis Awst, dywedodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) fod mwy na 500,000 o ddysgwyr yn aros am eu prawf gyrru yn y DU.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol newydd y TUC wedi galw am gyfarfod brys gyda Phrif Weinidog y DU mewn ymgais i ddod a'r anghydfodau diwydiannol ar draws y wlad i ben. 

Galwodd Paul Nowak am newid cyfeiriad gan y llywodraeth, gan ddweud y dylai gweinidogion gynnal trafodaethau cyflog gydag undebau.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Rydym yn gwerthfawrogi gwaith gweision sifil ar draws y wlad yn fawr, ond byddai gofynion undeb y PCS yn costio £2.4bn ar adeg pan mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ostwng chwyddiant er mwyn lleddfu’r pwysau ar aelwydydd ar draws y wlad.

“Bydd y trafodaethau’n parhau, ond gallwn roi sicrwydd bod gennym ni gynlluniau cynhwysfawr yn eu lle i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg ac i leihau aflonyddwch os bydd y streiciau PCS hyn yn mynd yn eu blaenau.”

Yng Nghymru bydd y canolfannau profi canlynol yn cael eu heffeithio:

  • Abertawe
  • Aberteifi
  • Aberystwyth
  • Bangor
  • Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Caernarfon
  • Casnewydd
  • Llanelli
  • Llantrisant
  • Merthyr Tudful
  • Mynwy
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhyl
  • Wrecsam

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.