Newyddion S4C

'Camgymeriadau wedi cael eu gwneud ar y ddwy ochr wrth ddelio â Brexit'

03/01/2023
Leo Varadkar

Mae prif weinidog Iwerddon, Leo Varadkar, wedi dweud fod "camgymeriadau wedi cael eu gwneud ar y ddwy ochr wrth ddelio â Brexit."

Dywedodd y byddai'n "hyblyg a rhesymol" wrth geisio datrys problemau yn ymwneud â phrotocol Gogledd Iwerddon.

Fe wnaeth gyfaddef fod y cytundeb "efallai ychydig yn rhy llym" ac fod yr Undeb Ewropeaidd yn agored i gyfaddawdu. 

Daeth Mr Varadkar yn brif weinidog Iwerddon am yr ail waith fis diwethaf.

Er hyn, mae'n amhoblogaidd iawn ymysg rhai Unoliaethwyr, sydd yn honni ei fod wedi bod yn ffigwr allweddol wrth greu'r protocol.

Mae Unoliaethwyr yn gwrthwynebu’r cytundeb ôl-Brexit oherwydd y rhwystrau economaidd fydd yn bodoli rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.

Nid yw’r llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon wedi gweithredu ers mis Chwefror, gyda Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) yn atal ffurfio’r weithrediaeth sy’n rheoli mewn protest yn erbyn trefniadau masnachu ar ôl Brexit.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.