Cwpl o Brydain ymysg pedwar fu farw wedi damwain hofrennydd yn Awstralia
03/01/2023
Mae cwpl o Brydain ymysg pedwar fu farw yn dilyn damwain rhwng dau hofrennydd yn Awstralia.
Bu farw Diane a Ron Hughes, 57 a 65 o Lerpwl, ar ôl i ddau hofrennydd daro yn erbyn ei gilydd ger parc morol yn nhalaith Queensland ddydd Llun.
Bu farw'r peilot a dynes arall 36 oed.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad y DU eu bod yn "cefnogi teulu dau o Brydain fu farw yn Awstralia ac rydym ni mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau lleol."
Cafodd tri arall eu hanafu yn ddifrifol.