Newyddion S4C

Cefnogwyr yn protestio yn erbyn Undeb Rygbi Cymru

Newyddion S4C 01/01/2023

Cefnogwyr yn protestio yn erbyn Undeb Rygbi Cymru

Daeth cefnogwyr ynghyd cyn dwy gêm ddarbi ddydd Sul mewn protest yn erbyn Undeb Rygbi Cymru.

Roedd Caerdydd yn wynebu'r Gweilch ym Mharc yr Arfau tra roedd y Scarlets yn herio'r Dreigiau ym Mharc y Scarlets, gyda phrotestiadau yn cael eu cynnal cyn y ddwy gêm. 

Y bwriad oedd amlygu'r hyn sy'n cael ei weld fel "argyfwng o fewn y gêm", gyda honiadau nad yw'r Undeb yn cyfathrebu â'r cefnogwyr. 

Dywedodd Ysgrifennydd Clwb Cefnogwyr y Gweilch, Keith Collins, ei bod hi'n "bwysig i ni ddangos i Undeb Rygbi Cymru rhaid sorto mas y mess sy' gyda ni ar y foment.

"Ie mae'n bwysig fod y tîm cenedlaethol yn neud yn dda ac yn ennill pethau. Ie mae'n bwysig, ond y pwynt yw rhaid i chi cael y chwaraewyr er mwyn llenwi tîm cenedlaethol."

Llun: JSG Cymru / Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.