Bron i 50 o siopau wedi gorfod cau bob dydd yn y DU yn 2022
Roedd yn rhaid i bron 50 o siopau gau bob dydd yn y Deyrnas Unedig yn 2022, yn ôl arolwg newydd.
Ar gyfartaledd, fe wnaeth tua 47 siop gau am y tro olaf, yn ddyddiol y llynedd. Yn ôl y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Adwerthu roedd 17,145 o siopau wedi cau ar hyd a lled y DU.
Roedd hyn yn gynnydd o 50% o'r flwyddyn flaenorol.
Yn ôl yr ymchwil, roedd ychydig mwy na 5,500 o siopau wedi gorfod cau oherwydd eu bod wedi mynd i'r wal, tra bod mwy na 11,600 wedi cau gan fod busnesau mwy wedi penderfynu torri ar gostau.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, Yr Athro Joshua Bamfield, bod hi'n debygol y byddai'r patrwm hwn yn parhau eleni. Ychwanegodd bod hi'n bosib y byddai yna rai "busnesau mawr" hefyd yn mynd i'r wal.
Cafodd mwy na 150,000 o swyddi yn y byd manwerthu eu colli'r llynedd yn y DU.