Dringwr wedi marw ar fynydd Ben Nevis yn Yr Alban

Mae dringwr wedi marw yn dilyn eirlithriad (avalanche) ar fynydd Ben Nevis yn Yr Alban.
Dywedodd Heddlu'r Alban eu bod nhw'n ymwybodol o eirlithriad ar y mynydd am o gwmpas 15:35 ddydd Gwener.
Mewn diweddariad, dywedodd tîm achub mynydd Lochaber eu bod wedi eu galw er mwyn helpu dau ddringwr a oedd ar y mynydd.
Bu farw dyn 48 oed yn y fan a'r lle ac fe gafodd dyn 40 oed ei gludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth.
Llun: Tîm Achub Mynydd Lochaber