Grymoedd ychwanegol i'r heddlu ym Mhenybont ar Ogwr yn dilyn cythrwfl

31/12/2022
Pen-y-bont ar Ogwr

Mae'r heddlu ym Mhenybont ar Ogwr wedi cael grymoedd ychwanegol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn cythrwfl ddydd Gwener.

Mae'r gorchymyn gwasgaru yn parhau yng nghanol y dref tan 18:59 nos Sul, dydd Calan.

Mae Adran 35 o Ddeddf Troseddau a Heddlua Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014 yn golygu bod swyddogion yn gallu gorchymyn pobl sy'n achosi unrhyw aflonyddu i adael yr ardal.

Daw'r gorchymyn i rym yn dilyn digwyddiad yng nghanol y dref brynhawn dydd Gwener.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd yr Angel am tua 15:15 i adroddiadau bod 15 o fechgyn yn eu harddegau yn ymladd.

Cafodd neb eu hanafu ond mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod bachgen 16 oed o Bencoed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n dweud bod y mesur wedi ei gyflwyno'r penwythnos hwn fel cam rhag ofn yn ystod dathliadau Nos Galan.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw sydd ag unrhyw wybodaeth neu bryderon i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200434327.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.