Llywodraeth y DU yn cyflwyno profion Covid-19 gorfodol i ymwelwyr o China

30/12/2022
Profion Covid

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd rhaid i ymwelwyr o China gymryd prawf Covid-19 cyn cael mynediad i'r wlad. 

Daw hyn wedi i Lywodraeth China lacio eu cyfyngiadau Covid-19, gan alluogi i bobl deithio tramor am y tro gyntaf ers 2020. 

Mae pryderon y gall y nifer o achosion o Covid-19 gynyddu'n sylweddol ar draws y byd wrth i drigolion o China ddechrau teithio yn rhyngwladol. 

Mae yna hefyd bryderon dros amrywiolion newydd posib yn lledaenu yn y wlad, gyda rhai gwledydd yn codi cwestiynau dros ddibynadwyedd ffigyrau Covid-19 Llywodraeth China. 

Mae nifer o wledydd eisioes wedi cyflwyno cyfyngiadau ar deithwyr o China yn sgil y newid mewn polisi, gan gynnwys yr UDA, Japan a'r Eidal. 

Yn wreiddiol, dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd unrhyw gynlluniau i gyflwyno cyfyngiadau o'r fath. 

Ond ddydd Iau, dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, bod y llywodraeth yn adolygu'r polisi. Bellach, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i deithwyr o China ddangos prawf Covid-19 negyddol cyn cael mynediad i'r DU. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.