Newyddion S4C

Costau Byw: Pryderon bod pobl hŷn yn canslo pecynnau gofal

ITV Cymru 30/12/2022
gwres / costau byw

Mae elusen sydd yn helpu pobl oedrannus yn pryderu bod rhai yn canslo eu pecynnau gofal o ganlyniad i’r argyfwng costau byw. 

Mae’r ymchwil diweddaraf yn dangos bod bron i 1 mewn 3 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn sgíl byw mewn cartrefi oer - gyda thri chwarter o’r marwolaethau hynny ymlith y grŵp oedran dros 75. 

Mae’r oerni diweddar wedi amlygu’r argyfwng costau byw i fwy o bobl, gyda Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif yn Ebrill fod tua 45% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd. 

Yn ystod y cyfnod diweddar, dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ei fod yn gweld mwy o gleifion gyda hypothermia, oherwydd bod pobl yn “poeni am droi ei gwres ymlaen.”

Dywedodd yr elusen Age Cymru fod eleni yn golygu bod pryderon yn gorfodi pobl hŷn i droi ei gwres lawr a chanslo ymweliadau gofal yn y cartref - gan roi ei hun mewn risg. 

Dywedodd Michael Phillips, oedd yn cynrychioli’r elusen, wrth ITV Cymru Wales: “Mae gennym ni eithaf tipyn o adroddiadau am bobl yn cwtogi ar becynnau gofal ynghŷd â’r penderfyniad gwresogi a bwyta sydd wedi cael sylw manwl yn ddiweddar.

“Ond rydym ni hefyd yn poeni am bobl sydd ddim yn trwsio pethau sydd eu hangen yn eu cartrefi, felly os dyw bwlb golau ddim yn gweithio mwyach, dy’n nhw ddim yn ei newid.

“Os y’ch chi’n crwydro o gwmpas yn nhywyllwch y nos, oherwydd dy’ch chi ddim eisiau buddsoddi mewn bylbiau golau, mae hynny hefyd yn gallu cael goblygiadau fel pobl yn cwympo. Mae’n bryder difrifol iawn i ni.” 

'Erfyn ar bobl hŷn'

Dywedodd Trefnydd Mentrau Iechyd Age Cymru, Angharad Phillips ei bod yn bryderus iawn fod pobl oedrannus yn cael ei chludo i’r ysbyty gyda hypothermia o ganlyniad i gostau gwresogi.

Dywedodd: “Rydym yn deall ein bod mewn cyfnodau heriol iawn, ond rydym yn erfyn ar bobl hŷn i feddwl am ei hiechyd personol cyn popeth arall a sicrhau bod o leiaf un ystafell yn y cartref yn ddigon cynnes i eistedd yn gyfforddus ynddi heb ddatblygu salwch. 

“Os yw pobl yn poeni am dalu eu biliau, dylen nhw ofyn am gyngor i sicrhau ei bod yn hawlio eu holl fudddaliadau ac yn y blaen. Er enghraifft, nid yw gwerth mwy na £200m o gredyd pensiwn yn cael eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn. Mae yna hefyd sawl budddaliad ar gael ar gyfer y gaeaf i rai pobl oedrannus, megis y Taliad Tanwydd Gaeaf, Taliad Tywydd Oer, Cynllun Gostyngiad Cartrefi Clud, a Chynllun Nyth Cartrefi Clud Llywodraeth Cymru. Cysylltwch ag elusennau fel Age Cymru, neu eich cyflenwr tanwydd lle mae disgwyl iddyn nhw gynorthwyo cwsmeriaid bregus.

“Bydden ni hefyd yn cynghori bod pobl yn ceisio bwyta o leiaf un pryd poeth y dydd yn ogystal â digon o ddiodydd poeth. Pan fod hi’n mynd yn oer iawn, gwisgwch ddigon o haenau cotwm tenau, hyd yn oed pan y’ch chi dan do, a cheisio parhau i symud wrth fynd am dro a gwneud gwaith corfforol y tȳ.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.