Cyn-chwaraewyr rygbi yn gweithredu'n gyfreithiol yn ebryn undebau

Newyddion S4C 29/12/2022

Cyn-chwaraewyr rygbi yn gweithredu'n gyfreithiol yn ebryn undebau

Mae nifer o gyn-chwaraewyr rygbi wedi ymuno â phroses gyfreithiol yn erbyn cyrff rygbi'r byd.

Mae cyfreithwyr ar ran y cyn-chwaraewyr yn gweithredu yn erbyn Rygbi'r Byd, Undeb Rygbi Cymru a’r Undeb Rygbi Pêl-droed yn dilyn honiadau o fethu ag amddiffyn chwaraewyr rhag y risgiau a achosir gan gyfergyd.

O blith y chwaraewyr, mae wynebau cyfarwydd fel Adam Hughes, cyn-gapten Cymru, Ryan Jones a’r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Lenny Woodard - oll yn byw gydag anafiadau i'r ymennydd a diagnosis cynnar o ddementia ac yn honni mai cyfergydion sydd wedi bod yn gyfrifol am hynny.

Dywedodd Lenny Woodard: "Ryw ben, bydd y rhestr o chwaraewyr yn cael ei wneud yn gyhoeddus, a bydd pobl yn synnu ar rai o’r bobl sydd arno.

"Mae enw Ryan Jones wedi helpu ein hymgyrch, achos nawr mae pobl yn ein cymryd ni mwy o diffri."

Mae'r cyn chwaraewyr o blith dros ddau gant eraill sydd wrthi yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn cyrff llywodraethu'r gamp- yn honni na chafon nhw eu diogelu wrth chwarae.

I'r rheiny sy'n ymchwilio i'r cysylltiad rhwng cyf ergydion a salwch hir dymor mae 'na bwyslais ar ddatblygu'r gamp i ddiogelu pawb ym mhob rheng.

Mae Seren Evans yn Ymchwilydd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dweud bod sgileffeithio ar lefel lawr gwlad yn gallu bod yn ddifrifol iawn.

"Beth sy’n anodd ar lefelau llawr gwlad yw bod lot o bobl yn neud e am hwyl, neu’n semi-professional lle mae ganddyn nhw swyddi ar yr ochr. Felly os mae rhywun yn derbyn cyfergyd, y protocol ydy cymryd rest.

"Ond mae’n rhaid i ni feddwl wedyn sut mae rhywun yn mynd i ariannu ei hunan, beth yw’r pwysau ariannol a meddyliol mae cyfergyd yn gallu ei gael ar rywun tu hwnt i’r gêm o rygbi."

Ers i’r effaith hir dymor ar chwaraewyr ddod i’r amlwg mae’r cyrff llywodraethu rygbi wedi mynnu fod diogelwch chwaraewyr yn flaenoriaeth.

Mewn datganiad ar y cyd ddydd Iau, fe ddywedodd Rygbi'r Byd, Undeb Rygbi Cymru a Rygbi’r undeb eu bod yn gweithio’n galed wrth sicrhau diogelwch y gamp i bawb. Ond nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar faterion cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.