120 o daflegrau wedi'u hanelu at ddinasoedd Wcráin
Mae rhybudd cyrch awyr wedi'i gyhoeddi yn Wcráin, wrth i Rwsia anelu 120 o daflegrau at ddinasoedd ar draws y wlad.
Fe wnaeth Llywodraeth Wcráin gadarnhau fore Iau fod Rwsia wedi saethu rhagor o daflegrau tuag at y wlad.
Hyd yma, mae ffrwydradau wedi'u clywed yn ninasoedd Kyiv, Kharkiv, Lviv, Zhytomyr and Odesa.
Yn wreiddiol, dywedodd un o gynghorwyr yr Arlywydd Zelensky, Oleksiy Arestovych, ar Facebook fod dros 100 o daflegrau wedi'u saethu tuag at Wcráin.
Massive missile attack on #Ukraine now. Explosions heard in central #Kyiv. The worst is not knowing what it is and where and not being able to look out of the window.
— Lesia Vasylenko (@lesiavasylenko) December 29, 2022
Bellach, mae swyddog arlywyddol arall, Mykhailo Podolyak, wedi cadarnhau bod y nifer yn agosach at 120.
Yn sgil yr ymosodiadau, mae dinasoedd fel Lviv ac Odesa wedi colli cyflenwadau trydan.
Yn Kyiv, mae tri o bobl wedi'u hanafu wedi i daflegrau daro dau dŷ, yn ôl maer y brif ddinas, Vitaliy Klitschko . Fe wnaeth Mr Klitschko hefyd ddweud y gall Kyiv ddioddef toriadau i gyflenwadau trydan yn sgil yr ymosodiadau.