Tri phrif weinidog a dau dywysog: Y flwyddyn wleidyddol
Tri phrif weinidog a dau dywysog: Y flwyddyn wleidyddol
Tri phrif weinidog, dau Dywysog Cymru, ac un etholiad ar draws holl gynghorau sir y wlad. Dyna'r flwyddyn wleidyddol yng Nghymru.
Ond beth yw argraffiadau rhai o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol ar y flwyddyn aeth heibio? Y flwyddyn a welodd Liz Truss yn olynu Boris Johnson, a Rishi Sunak yn ei holynu hi, fel prif weinidog y Deyrnas Unedig.
Ar ddiwedd y flwyddyn hanesyddol hon mewn gwleidyddiaeth ac o fewn cymdeithas yn ehangach, mae Newyddion S4C wedi holi tri chynghorydd o wahanol bleidiau ac o wahanol ardaloedd o Gymru am rai o'r digwyddiadau mwyaf cofiadwy.
Anodd yw dewis un gair i ddisgrifio'r flwyddyn yn ôl y Cynghorydd Jamie Green o'r blaid Lafur, sy'n cynrychioli ward Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais ar Gyngor Caerdydd.
"Mae rhaid iddo fod yn gwallgo' os oedd rhaid i fi dewis un gair," meddai.
Mae'r Cynghorydd Aled Thomas o'r Ceidwadwyr yn cynrychioli Johnston ar Gyngor Sir Penfro.
“Ma’ fe wedi bod yn blwyddyn diddorol iawn a dwi’n meddwl bod hi’n gair teg i defnyddio," meddai.
"Ond ‘na’r swydd, pan chi’n mynd mewn i gwleidyddiaeth bydd pob dydd yn gwahanol a dyna pam mae pobol yn ‘neud e ond ma’ fe’n wir ma’ fe ‘di bod yn blwyddyn a hanner blwyddyn ‘ma.”
Blwyddyn llawn "sgandal" oedd hi yn ôl y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn sy'n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw ar ran Plaid Cymru.
“Dwi’n meddwl fod hi ‘di bod yn flwyddyn ddiddorol efo’r holl sgandalau sy’n digwydd yn San Steffan," meddai.
"Efo’r Cyfrifiad hefyd, dwi’n meddwl y peth mwyaf diweddar sydd wedi digwydd yn wleidyddol ydy gweld nifer o siaradwyr yr iaith Gymraeg sut ‘da ni’n mynd i gynllunio ‘mlaen am y degawd nesa’."
'Amser rili od'
Tri phrif weinidog mewn deufis - dyna'r foment fwyaf "gwallgof" yn ôl y Cynghorydd Green o'r blaid Lafur.
“Y peth mwyaf gwallgof wrth gwrs oedd Liz Truss yn ddod prif weinidog y DU," meddai
"Wrth gwrs, roedd 46 diwrnod dwi’n meddwl yn y swydd. Roedd yn amser rili rili od.”
Mae'r Cynghorydd Thomas o'r Ceidwadwyr yn cytuno.
"Dwi’n meddwl bod hwnna falle y peth mwyaf," meddai.
"Ma’ shwt gyment wedi digwydd ond hwnna yw’r un, sai’n cofio unrhyw flwyddyn arall ma’ hwnna wedi digwydd sydd yn dod i meddwl fi anyway.”
Yn ogystal â chyfnod Liz Truss yn brif weinidog a chyllideb "fechan" y Canghellor ar y pryd Kwasi Kwarteng, mae'r Cynghorydd ap Elwyn yn teimlo fod y cyfnod ers penodi'r Tywysog Williams yn Dywysog Cymru hefyd yn "gyfnod rhyfedd".
"Efo William yn cael ei benodi’n Dywysog Cymru dwi’n meddwl bod hwnna wedi bod yn gyfnod rhyfadd iawn yn enwedig o fis Medi tan ‘wan a gweld yr holl newidiadau sydd wedi cael eu brysio drwadd rywsut ers hynny," meddai.
"Ma’r tri mis diwetha’ ‘ma wedi bod yn hollol hurt bron."
'Cario 'mlaen'
Gyda 2023 ar y gorwel, mae'n flwyddyn newydd - yn ddechrau newydd i rai - yn gyfnod yr addunedau wrth gwrs.
Ond pa mor newydd fydd 2023 yn y byd gwleidyddol a pha bynciau fydd yn hawlio sylw'r gwleidyddion y flwyddyn nesaf?
Mae rhai yn disgwyl y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal o fewn y 12 i 18 mis nesaf.
A gyda chwestiynau am olynydd Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru, sydd wedi datgan ei fwriad i ymddeol cyn diwedd y tymor Seneddol presennol - beth fydd ar dop yr agenda gwleidyddol?
Yn ôl y Cynghorydd Thomas, yr argyfwng costau byw fydd blaenoriaeth y Ceidwadwyr.
“Bydd rhaid iddo fe fod y cost of living crisis, ni wedi gweld gitre fan hyn, yn enwedig shwt ma’ fe ‘di bod nawr ym mis Rhagfyr, ni ‘di gweld shwt ma’r effaith o cael mwy o trydan a mwy o olew i gwresogi’r tŷ," meddai.
"Dwi’n credu y problem hwnna ac wrth gwrs chwyddiant fydd y ddau beth fyddwn ni’n gorfod focuso ar yn 2023."
Mae'r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn am weld mwy o ddatganoli - yn enwedig pan mae'n dod i'r gyfraith.
"Un o’m amcanion personol i fysa gweld system gyfreithiol neu’r gyfundrefn gyfreithiol newydd yn cael ei datblygu i Gymru o fewn y 10 mlynedd nesa’ a gweld os fydd ‘na unrhyw ddatblygiadau’n dod yn 2023 efo hynny," meddai.
I'r Cynghorydd Green, mae her ryngwladol newid hinsawdd yn parhau'n flaenoriaeth - a honno wedi ei gwneud yn anoddach i ddelio â hi gan yr argyfwng costau byw.
“Mae heriau newid hinsawdd yn tyfu, yn tyfu, yn tyfu," meddai.
"Nawr mae sialens mawr achos mae’r economi y byd yn gwan iawn so sut ydan ni yn cario ‘mlaen yn delio gyda newid hinsawdd, gyda yr heriau yn yr economi, gyda rhyfelau yn Ewrop.
"So mae lot, lot o bynciau sydd cario ‘mlaen y flwyddyn nesaf.”