Dadorchuddio mainc er cof am Phil Bennett yng Nghlwb Felinfoel

Dadorchuddio mainc er cof am Phil Bennett yng Nghlwb Felinfoel
Mae mainc wedi ei dadorchuddio yng Nghlwb Rygbi Felinfoel yn Llanelli ddydd Sadwrn er cof am y cyn-chwaraewr Phil Bennett.
Roedd Bennett yn un o feibion enwocaf y clwb ac yn un o enwau mwyaf adnabyddus timau rygbi Cymru a'r Llewod.
Roedd gêm goffa rhwng Felinfoel a Llangennech i fod i gael ei chwarae er cof am Phil, ond bu'n rhaid ei gohirio yn sgil y tywydd.
Ond fe aeth y dadorchuddio yn ei flaen er gwaetha'r tywydd ac roedd ei deulu yn falch iawn o gael symbol parhaol o'i gyfraniad i'r clwb.
Dywedodd ei wyres Ela Bennett: "Fel teulu rydyn ni mor falch i gael y fainc yma oherwydd mae'n neis i cael e yn y gwagle ble ro'dd e'n ishte a sefyll i gwylio pob gêm Felinfoel, a mae'n neis i dangos ysbrydoliaeth tad-cu ar y tîm ac ar y cymuned."
Roedd ei ŵyr Steffan Bennett: "Ni'n prowd iawn rili fel teulu bod Felinfoel wedi meddwl am dad-cu a wedi rhoi ymdrech mewn i creu rhywbeth i fe a bydd e 'ma am blynyddoedd i ddod."