Ysgolion wedi cau yng Nghymru oherwydd y tywydd gaeafol
Mae rhai o ysgolion Cymru wedi cau ddydd Gwener oherwydd yr amodau rhewllyd.
Mae tywydd gaeafol wedi taro Cymru dros y dyddiau diwethaf, gyda'r tymheredd yn gyson wedi gostwng yn is na'r rhewbwynt.
Ysgol wedi cau oherwydd rhew a iechyd a diogelwch ar y lonydd. Black ice and trecherous conditions around the school. School closed all day. @CyngorGwynedd
— Ysgol Pendalar (@YPendalar) December 16, 2022
Mae nifer o ysgolion wedi cadarnhau, y rhan fwyaf yng Ngwynedd, eu bod ar gau am y diwrnod wrth i rew greu amodau peryglus i staff a disgyblion.
Mae'r ysgolion canlynol wedi'u cau:
GWYNEDD
- Ysgol Maesincla
- Ysgol Yr Hendre
- Ysgol Syr Hugh Owen
- Ysgol Waunfawr
- Ysgol Santes Helen
- Ysgol Y Gelli
- Ysgol Pendalar
- Ysgol Gwaun Gynfi
- Ysgol Pont y Gôf
- Ysgol Llanystumdwy
- Ysgol Bodfeurig
- Ysgol Dyffryn Ogwen
- Ysgol Bontnewydd
- Ysgol Penisarwaen
- Ysgol Llanrug
- Ysgol Penybryn
- Ysgol Abercaseg
- Ysgol Y Felinheli
- Ysgol Brynrefail
- Ysgol Eifionydd
- Ysgol Beddgelert
- Ysgol Dolbadarn
YNYS MÔN
- Ysgol Santes Dwynwen
- Ysgol Gymraeg Morswyn
- Ysgol Parc y Bont
CEREDIGION
- Ysgol Henry Richard
Penwythnos oer
Fe fydd yr amodau oer yn parhau trwy'r penwythnos, wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am rew ac eira i nifer o siroedd Cymru.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 03:00 fore Sul ac fe fydd yn parhau tan 21:00.
Bydd 13 o siroedd Cymru yn cael eu heffeithio gan y rhybudd:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Wrecsam
Mae'r swyddfa'n rhybuddio y gallai'r rhew ac eira arwain at amodau heriol, gyda pherygl o anafiadau wrth i bobl lithro neu gwympo.
Mae trafferthion i deithwyr hefyd yn bosibl, a gallai eira ddisgyn ar dir uchel yn ystod y dydd.
Bydd posibilrwydd y gall rhai ardaloedd gwledig colli pŵer hefyd.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae ansicrwydd pa mor hir y bydd y cyfnod oer yn parhau.
Ond mae disgwyl tywydd rhewllyd tan yr wythnos nesaf, gyda'r tymheredd dipyn yn is na'r cyfartaledd ar gyfer dechrau Rhagfyr.