Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau torfol peilot

Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau torfol peilot
Wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau i lacio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau torfol peilot i’w cynnal dros yr wythnosau nesaf.
Yn eu plith fydd Tafwyl, gŵyl gerddoriaeth sy'n cael ei chynnal gan Fenter Caerdydd.
Bydd hyd at 500 o bobl yn cael mynychu'r ŵyl ddydd Sadwrn 15 Mai.
Dywedodd Manon Rhys O'Brien wrth raglen Newyddion S4C, "O'dden ni wedi bwriadu rhedeg Tafwyl digidol 'leni beth bynnag, ond wedyn ddaeth yr alwad o'r llywodraeth a o'dden ni yn awyddus i fod yn rhan o'u cynllun prawf nhw ar gyfer dod â digwyddiada' 'nôl.
"O'dd gennon ni 24 awr er mwyn cael cynulleidfa at ei gilydd, o'ddan ni angen 500 o bobl. Gafon ni dros 1,100 o bobl yn gwneud cais", ychwanegodd.
Fe fydd yn rhaid i bawb sy'n mynychu Tafwyl eleni gael dau brawf negyddol ar gyfer Covid-19 cyn cyrraedd y safle.
Ymhlith y rhestr hefyd mae digwyddiadau Eid a nifer o ddigwyddiadau chwaraeon.
Bydd 4,000 o dorf yn cael mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Albania ar 5 Mehefin.
Ar 18 Mai, bydd torf yn cael mynychu gêm bêl-droed ail-gyfle Casnewydd yn Adran Dau ar Rodney Parade, gyda thorf yn ogystal yn cael mynd i Stadiwm Liberty ar 22 Mai ar gyfer gêm CPD Abertawe yn y Bencampwriaeth.
Hefyd, mae’r llywodraeth wedi cadarnhau y bydd 750-1000 o wylwyr yn cael mynd i Erddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn rhwng 3-6 Mehefin.
Bydd 250 yn cael mynd i Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 3-4 Mehefin, ac o ran digwyddiadau dan do, bydd 100 o bobl yn cael mynychu digwyddiad busnes yng Nghanolfan Cynadleddau Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 20 Mai.
'Cam yn nes'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae wedi bod yn 18 mis hir ac anodd i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru – i berchnogion digwyddiadau, y rhai sy'n dibynnu ar y sector am y gwaith - ac i'r rhai sy'n hiraethu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru.
“Wrth i ni edrych ar godi'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau.
“Mae'r gwaith hwn yn dod â ni gam yn nes at ddychwelyd i ddigwyddiadau yng Nghymru, hoffwn ddiolch i berchnogion y digwyddiadau a'r Awdurdodau a byrddau iechyd Lleol am eu hymrwymiad i weithio gyda ni a dymuno'n dda iddynt dros yr haf.
"Mae'r digwyddiadau hyn yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond mae mynediad i fynychwyr – boed yn gyfranogwyr neu'n wylwyr – yn cael ei reoli'n llym gan y trefnwyr a'i gytuno ymlaen llaw.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd y digwyddiadau eu dewis mewn trafodaeth gyda bwrdd prosiect Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen digwyddiadau prawf a pherchnogion digwyddiadau.
Cadarnhaodd y llywodraeth y bydd protocol profi ac asesiad risg yn cael ei deilwra ar gyfer pob digwyddiad.
Llun: Jeremy Segrott (drwy Wikimedia Commons)