
Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys: ‘Fi jyst yn joio mas draw'
Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys: ‘Fi jyst yn joio mas draw'
Mae 12 Mai 2021 yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys.
Prif nod y diwrnod yw dathlu cyfraniad nyrsys i gymdeithas ar draws y byd.
Bydd y diwrnod hefyd yn nodi blwyddyn cwbl wahanol i nifer o’r nyrsys sydd wedi gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig.
Un o’r rhain yw Mikey Denman, sydd yn ei drydedd flwyddyn ar gwrs Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ôl Mikey, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn “wahanol iawn”, ond mae’n “ddiolchgar i staff a’r cleifion” ar ei leoliad ychwanegol.
“Mae profiad fi fel myfyriwr nyrsio yn ystod y pandemig wedi bod yn wahanol iawn i ddweud y lleia’,” dywedodd wrth Newyddion S4C.
“Ond hefyd, mae ‘na ochr bositif yna. Fel o’n ni ‘di gallu mynd ar leoliad ychwanegol yn yr ysbyty maes ac oedd hynna’n anhygoel.
“A hefyd, oeddwn ni’n gallu cael profiade’ o fod yn yr testing a vaccinating teams, ac mae hwnna wedi bod yn ffab.

“O’n ni ‘di dysgu shwt gyment a fi mor ddiolchgar i staff a’r cleifion i gyd.”
Dywedodd Mikey ei fod yn falch iawn o’i brofiad o nyrsio hyd yn hyn.
“Mae pobl yn gofyn i fi shwt fi’n teimlo i fod yn fyfyriwr nyrsio, ac mae rhaid i mi ddweud mae e’n bleser,” ychwanegodd.
“Fi jyst yn joio mas draw a’r ffaith bo’ fi’n gallu mynd fewn i leoliad ychwanegol a jyst helpu pobol yn eu hamseroedd falle isaf yn bywyd nhw jyst yn bleser.”
Fe fydd Cyngor Rhyngwladol y Nyrsys (ICN) yn canolbwyntio ar ddyfodol nyrsio a sut y bydd yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod.
“Cyngor byddwn ni’n rhoi i nyrsys y dyfodol ydi – gwnewch eich gorau glas a hefyd gofyn cwestiynau,” dywedodd Mikey.
“Mae gofyn cwestiynau yn allweddol.”
Prif lun: Nyrsys (S4C)