Newyddion S4C

'Angen i gymunedau lleol gael hawl cyntaf' i brynu adeiladau cyhoeddus

Newyddion S4C 01/12/2022

'Angen i gymunedau lleol gael hawl cyntaf' i brynu adeiladau cyhoeddus

Cymunedau lleol ddylai gael yr hawl cyntaf i brynu adeiladau cyhoeddus cyn eu bod yn cael eu gwerthu’n breifat, yn ôl un ymgyrchydd ynni.

Daw’r alwad wedi i ddwy ysgol fach yng Nghwm Tawe gael eu gwerthu i brynwyr preifat.  Cafodd y ddwy eu gwerthu mewn arwerthiant yn Llundain.

Yn ôl Dyfan Lewis o Ynni Cymunedol Cymru, mae cymunedau’n colli cyfleoedd i fanteisio ar adeiladau a rhybuddiodd fod Cymru “ar ei hôl hi”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn argymell ffurfio comisiwn i ystyried yr holl ffactorau sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol.

Yn 2015 fe gaeodd Ysgol Gynradd Cwm-gors yng Nghwm Tawe.

Er yn ergyd i’r gymuned ar y pryd wnaeth elusen ynni lleol Awel Aman Tawe brynu’r adeilad yn 2018.

Yn gobeithio agor ei drysau yn 2023, bydd Hwb y Gors yn hwb gymunedol.

Roedd y pryniant yn bosib o ganlyniad i elw o fferm wynt Mynydd y Gwrhyd, menter lle mae pobl leol yn berchen ar gyfranddaliadau.

Yn ôl Eira McCallum o Awel Aman Tawe roedd hi’n bwysig cadw adeilad yr ysgol yn rhan o’r gymuned.

“Trwy siarad gyda phobl oedd wedi mynd i’r ysgol maen nhw mor hapus byddan nhw’n gallu dod 'nôl i neud pethau yma.  Mae’r adeilad ddim wedi cymryd i ffwrdd ohonyn nhw," meddai.

Image
Adeiladau cymunedol
Y gobaith yw y bydd Hwb y Gors yn agor ei drysau yn 2023.

'Adnodd i'r gymuned'

Bydd yr adeilad yn cynnig ystod o gyfleusterau gan gynnwys desgiau aml-ddefnydd [hot desks], caffi, stiwdio gelf a neuadd gymunedol.

Yn ogystal fydd yna adnoddau i helpu rhai sy’n ei chael hi’n anodd yn yr argyfwng costau byw gan gynnwys ystafelloedd cynnes, cawodydd a pheiriannau golchi.

Roedd yn bwysig i gynnig y fath cyfleusterau i gymuned Cwm-gors yn ôl un o’r trefnwyr, Emily Hinshelwood .

“Ni moen i’r adeilad bod yn lle am pawb i ddod a cwrdd gyda’i gilydd," meddai.

Mae’n bwysig ar hyn o bryd achos mae energy crisis.  Ni moen i’r adeilad i fod yn warm bank, hefyd mae wet room a cawod i bawb i ddefnyddio.”

Yn ôl ymgyrchwyr byddai mwy o gymunedau yn elwa o gyfleusterau tebyg. 

Meddai Dyfan Lewis o Ynni Cymunedol Cymru: “Beth mae Hwb y Gors yn dangos i chi yw bod modd i gymuned feddiannu adeilad fel hen ysgol a’i gadw fe’n adnodd ar gyfer y gymuned

“Dyna’r fath o freuddwyd byddai rhywun sydd wedi colli ysgol yn dymuno cael yn eu pentref nhw.”

Image
Adeiladau cymunedol
Mae Dyfan Lewis o'r farn nad oedd pobl Felindre wedi cael digon o gyfle i brynu adeilad yr ysgol pan gafodd ei chau.

'Colled anferthol'

Yn 2019 fe gollodd Cwm Tawe ddwy ysgol leol, Ysgol Felindre ac Ysgol Craig-Cefn-Parc.

Yn ôl pobl leol roedd y ddau adeilad yn rhan ganolog o’u cymunedau.

Cafodd y ddwy eu prynu gan brynwyr preifat wedi'r arwerthiant yn Llundain.

Mae Ysgol Felindre bellach at ddefnydd preifat ac mae yna gais cynllunio dan ystyriaeth i droi Ysgol Craig-Cefn-Parc yn adeiladau preswyl.

Yn ôl Dyfan, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Felindre, ni chafodd pobl Felindre ddigon o gyfle i brynu’r adeilad, a bod ased cymunedol wedi ei golli.

“Mae’r golled o ysgol fach, wledig fel hyn yn un anferthol," meddai.

“Beth hoffwn ni weld fel Ynni Cymunedol Cymru yw’r hawl gyntaf yna yn cael ei rhoi i gymunedau i allu prynu asedau wrth iddyn nhw fynd o’r sector gyhoeddus.

“Ni ‘di gweld y peth yn digwydd yn Yr Alban ugain mlynedd yn ôl ac mae Cymru tu ôl iddi, dweud y gwir.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi perchnogaeth gymunedol o dir ac asedau, gan argymell ffurfio comisiwn i ystyried yr holl ffactorau sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol.

Ychwanegodd eu bod eisoes wedi buddsoddi £1 miliwn i gefnogi banciau cynnes ar draws Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.