Brexit 'wedi ychwanegu bron i £6bn' at filiau bwyd teuluoedd y DU
Mae Brexit wedi ychwanegu bron i £6 biliwn at filiau bwyd y DU dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Yn ôl yr ymchwil, fe waeth penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd gynyddu biliau bwyd pob cartref o £210 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Awgryma'r gwaith ymchwil gan y London School of Economics mai cyfyngiadau ychwanegol ar nwyddau yn deillio o Brexit yw'r prif reswm am y cynnydd.
Daw hyn er gwaethaf y Cytundeb Masnach a Chydweithio rhwng y DU a'r UE a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021. Mae'r cytundeb yn sicrhau nad oes rhaid talu tariff ar nwyddau sydd yn symud rhwng y DU ac Ewrop.
Ond yn ôl yr adroddiad, mae rhwystrau eraill fel gwiriadau a gofynion ychwanegol wrth gludo nwyddau ar draws ffiniau yn cynyddu'r gost i gwsmeriaid.
Mae'r cynnydd yma hefyd yn effeithio mwy ar y teuluoedd tlotaf, gan eu bod yn gwario mwy o'u cyflogau ar fwyd.
Dywedodd Richard Davies, a wnaeth helpu ysgrifennu'r adroddiad, fod Brexit wedi cyfrannu at y lefel uchel o chwyddiant sydd yn bodoli yn y DU.
"Wrth adael yr UE, fe wnaeth y DU gyfnewid perthynas fasnachu ddwfn heb lawer o rwystrau i un gydag ystod eang o wiriadau, ffurflenni a chamau cyn i nwyddau groesi'r ffin.
"Mae cwmnïau yn wynebu costau uwch ac wedi pasio'r rhain ymlaen i gwsmeriaid.
"Dros y ddwy flynedd hyd at ddiwedd 2021, mae Brexit wedi cynyddu costau bwyd o rhyw 6%", meddai.