Banc HSBC i gau 12 cangen yng Nghymru
Mae HSBC wedi cyhoeddi y bydd 12 cangen o'r banc yng Nghymru yn cau o fis Ebrill 2023.
Daw hyn wrth i'r banc gyhoeddi y bydd 114 cangen ar draws yr DU yn cau, sydd yn gyfystyr â dros chwarter o ganghennau'r banc.
Yn ôl y banc, mae'r defnydd o'r canghennau wedi disgyn yn sylweddol ers y pandemig, gyda rhai safleoedd yn gweinyddu llai na 250 o bobl yr wythnos.
Daw hyn wrth i'r defnydd o fancio ar-lein gynyddu'n sylweddol. Dywedodd HSBC bod y defnydd o'i wasanaethau digidol bron wedi treblu ers 2017.
Er hyn, ychwanegodd y banc ei fod yn buddsoddi miliynau o bunnau er mwyn gwella a datblygu gweddill ei ganghennau sydd yn parhau ar agor.
Nid yw'n glir faint o ganghennau fydd yn cau yng Nghymru neu ba effaith bydd y penderfyniad yn ei gael ar swyddi.
Dywedodd cyfarwyddwr rheolwr HSBC yn y DU, Jackie Uhi, fod arferion bancio pobl wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae pobl yn newid y ffordd maen nhw'n bancio ac mae'r nifer sydd yn mynd i rai canghennau ar ei lefel isaf erioed, gyda dim arwydd o newid," meddai.
"Dyw'r penderfyniad i gau cangen byth yn un hawdd, yn enwedig dim ond un sydd ar ôl mewn ardal, felly rydym wedi buddsoddi arian i helpu pobl symud i fancio ar-lein wrth i ganghennau gau."
Fe fydd y penderfyniad yn effeithio ar safleoedd yn y llefydd yma yng Nghymru:
- Aberhonddu
- Caerdydd
- Port Talbot
- Y Fenni
- Pontypool
- Dinbych
- Bae Colwyn
- Cas-gwent
- Coed Duon
- Penarth
- Dinbych-y-pysgod
- Y Bontfaen