Newyddion S4C

Ramsey, Bale ac Allen yn dechrau wrth i Gymru wynebu Lloegr

29/11/2022

Ramsey, Bale ac Allen yn dechrau wrth i Gymru wynebu Lloegr

Mae Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen i gyd yn dechrau i Gymru wrth iddynt wynebu Lloegr yn eu gêm grŵp olaf yng Nghwpan y Byd. 

Daw hyn er gwaethaf rhai galwadau ar y rheolwr Rob Page i wneud newidiadau sylweddol i'r tîm cychwynnol yn sgil y golled yn erbyn Iran. 

Bu rhai cefnogwyr yn galw ar Page i roi cyfle i chwaraewyr iau yn lle'r to hŷn, wedi perfformiadau gwael gan Bale a Ramsey yn y ddwy gêm agoriadol. 

Yn siarad ar ôl y gêm yn erbyn Iran, dywedodd y sylwebydd a chyn-chwaraewr Gwenan Harries na ddylai Gareth Bale nac Aaron Ramsey ddechrau yn erbyn Lloegr. 

Ond mae Bale a Ramsey wedi cadw eu lle yn y garfan, tra bod Allen yn symud oddi ar y fainc i ddechrau yng nghanol cae. 

Mae Dan James hefyd wedi'i gynnwys yn y tîm cychwynnol yn lle Harry Wilson, wrth i Page gadw'r tîm yn weddol debyg i'r un a gollodd i Iran. 

Ydy hi'n bosib?

Mae angen gwyrth ar Gymru er mwyn cadw breuddwyd Cwpan y Byd yn fyw a chyrraedd rowndiau nesaf y gystadleuaeth yn Qatar. 

Ar hyn o bryd, mae'r crysau cochion yn gorwedd ar waelod Grŵp B, gydag ond un pwynt o'u dwy gêm gyntaf. 

Roedd gobeithion yn uchel yn dilyn y gêm gyntaf yn erbyn yr UDA. Daeth Gareth Bale yn arwr Cymru unwaith eto i sicrhau gêm gyfartal gyda'i gic gosb hwyr. 

Ond roedd perfformiad siomedig yn erbyn Iran. Fe ildiodd Cymru ddwy gôl yn y munudau olaf. 

Er mwyn cadw eu lle yn y gystadleuaeth, mae'n rhaid i Gymru guro'r hen elyn Lloegr yn Stadiwm Ahmad Bin Ali nos Fawrth. 

Fe fydd buddugoliaeth o bedair gôl yn sicrhau lle Cymru yn yr 16 olaf. Ond nid yw hyd yn oed y cefnogwr mwyaf hyderus yn credu bod hyn yn ganlyniad realistig. 

Os yw Cymru yn sicrhau buddugoliaeth, bydd rhaid iddynt hefyd obeithio am ganlyniad ffafriol gan aelodau eraill Grŵp B.

Mae Cymru angen gêm gyfartal rhwng yr UDA ac Iran er mwyn cael siawns o gyrraedd y rowndiau nesaf. 

Er hyn, mae angen buddugoliaeth ar yr Americanwyr a'r Iraniaid er mwyn parhau yn y bencampwriaeth. Dyw hi ddim yn debygol y bydd y naill ochr yn hapus gyda gêm gyfartal. 

Fe fydd Lloegr hefyd yn gwthio am fuddugoliaeth er mwyn sicrhau eu lle ar frig y grŵp. 

Mae'r sefyllfa wedi gadael nifer o gefnogwyr yn anobeithiol, gyda'r disgwyliad y bydd Cymru ar hediad 'nôl adref erbyn diwedd yr wythnos. 

Ond, yn ôl y cyflwynydd chwaraeon Delyth Lloyd, mae Cymru yn dibynnu ar "moment of magic" gan Ramsey neu Bale er mwyn ennill yn erbyn yr hen elyn. 

"Mae fe mynd i fod yn anodd...ond wrth gwrs allwn ni curo Lloegr," meddai.

"Efallai bydd angen cael moment of magic o Gareth Bale neu Aaron Ramsey...ond moment of magic mae fe'n cymryd i gadw'r chwaraewyr yn credu allwn nhw neud e.

"Mae fe'n bosib, mae fe'n bosib, ac mae rhaid i ni gredu bod alle ni 'neud e." 

Llun: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.