Cyhuddo dyn o lofruddio bachgen 14 oed mewn ymosodiad yn Llundain
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio bachgen 14 oed wedi ymosodiad â chleddyf yn Llundain ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu'r Met fod Marcus Aurelio Arduini Monzo, 36, hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio llofruddio, dau achos o achos niwed corfforol, byrgleriaeth a chael llafn yn ei feddiant.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Barkingside ddydd Iau.
Bu farw plentyn 14 oed, Daniel Anjorin, yn y digwyddiad.
Fe gafodd pedwar o bobl eraill, gan gynnwys dau heddwas, eu hanafu yn y digwyddiad.
Dywedodd Prif Erlynydd ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Ngogledd Llundain, Jaswant Narwal: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Daniel a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy yma."