Llifogydd mewn pentref ger Merthyr Tudful wedi i bibell ddŵr fyrstio
Mae nifer o gartrefi mewn pentref ger Merthyr Tudful wedi dioddef llifogydd ac ysgol wedi’i chau wedi i bibell ddŵr fyrstio.
Mae canolfan gymunedol Trelewis wedi cynnig lloches i’r rhai sydd ei hangen.
Fe wnaeth Cyngor Merthyr Tudful bostio ar X, Twitter yn wreiddiol, gan ddweud: “Rydym yn gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru, Cartrefi Cymoedd Merthyr a Chymdeithas Tai Merthyr Tudful i gefnogi preswylwyr, ac rydym yn gweithio i ddatrys hyn cyn gynted â phosib.
"Mae'r ganolfan gymunedol ar agor ac mae ganddi flancedi, bwyd a diodydd poeth ar gael i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio.
“Mae gan Ddŵr Cymru rybudd ar eu gwefan yn nodi eu bod yn gobeithio y bydd y cyflenwad dŵr yn cael ei adfer yn ddiweddarach heno."
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn delio gyda phrif bibell ddŵr sydd wedi byrstio yn Nhrelewis, sy'n effeithio ar gyflenwadau i gwsmeriaid yn Nhrelewis a hefyd y cymunedau cyfagos.
“Ry’n ni’n gwybod bod nifer fach iawn o dai yng nghyffiniau’r byrstio wedi’u heffeithio gan ddŵr yn dianc o’r brif bibell. Ry’n ni’n ymdrin â'r trigolion hyn yn uniongyrchol.
“Ry’n ni hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i roi dŵr potel iddyn nhw, a hefyd yn sefydlu gorsafoedd dŵr potel.
“Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd ac ry’n ni am sicrhau cwsmeriaid y byddwn yn atgyweirio’r bibell ac yn adfer cyflenwadau cyn gynted ag y gallwn.”