Cyflwyno mesurau lletya dofednod yng Nghymru i fynd i'r afael â ffliw adar
Mae mesurau lletya gorfodol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru.
Daw’r mesurau newydd i rym oherwydd bod sefyllfa’r ffliw adar yn awgrymu y bydd risg y clefyd yng Nghymru yn cynyddu dros fisoedd y gaeaf.
Bydd y mesurau newydd yn dod i rym yng Nghymru ar ddydd Gwener, 2 Rhagfyr.
O’r dyddiad hwnnw, bydd yn ofyniad cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt.
Rhaid i bob un sy'n cadw adar neu ddofednod adolygu hefyd y mesurau bioddiogelwch ar y safle lle mae'r adar yn cael eu cadw a gweithredu ar hynny. Diben hyn yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn farwol i lawer o adar.
Mae’r mesurau hyn eisoes yn bodoli yn Lloegr.
Mae risg y feirws i iechyd pobl yn dal yn fach iawn ac mae’r cyrff safonau bwyd wedi dweud bod risg ffliw’r adar i ddiogelwch bwyd siopwyr y DU yn fach iawn.