Newyddion S4C

Carchar i weithiwr yr heddlu am drosglwyddo gwybodaeth i'w chariad oedd yn gwerthu cyffuriau

Lucy Langmead a Daniel Cozens

Mae menyw o Bontypridd a drosglwyddodd wybodaeth gyfrinachol i’w chariad er mwyn ei helpu ef i ddelio cyffuriau tra roedd hi’n gweithio i’r heddlu wedi cael ei dedfrydu i garchar yn Llys y Goron Caerdydd. 

Roedd Lucy Langmead, 44 oed o Donteg, wedi bod yn gweithio i Heddlu De Cymru mewn rôl weinyddol cyn iddi ddechrau perthynas gyda Daniel Cozens, 37 oed o Drefforest, Pontypridd yn 2020.

Roedd hi wedi bod yn gweithio i’r llu am sawl blwyddyn cyn ei pherthynas â Cozens.

Rhwng mis Mai 2021 a mis Chwefror 2022, roedd Langmead wedi defnyddio system gyfrifiadurol yr heddlu sawl gwaith ac wedi trosglwyddo neu anfon gwybodaeth gyfrinachol at ei chariad ynglŷn â’i gysylltiadau a’r wybodaeth gyfrinachol roedd gan yr heddlu amdanynt.

Rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2022, roedd Langmead hefyd wedi defnyddio’r system gyfrifiadurol at ddibenion personol, a hynny er mwyn cael gafael ar wybodaeth am aelodau ei theulu a phobl roedd hi yn ei hadnabod. 

Doedd yr achosion yma ddim yn ymwneud â gwaith yr heddlu. 

Cafodd Lucy Langmead a Daniel Cozens eu harestio ac fe blediodd y ddau yn euog i’r troseddau, a oedd yn cynnwys cynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Fe gafodd Langmead ei dedfrydu i ddwy flynedd ac 11 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth. Bydd yn rhaid iddi dalu gordal o £228 o fewn tair mis o gael ei rhyddhau hefyd. 

Mae Cozens wedi’i ddedfrydu i flwyddyn ac 8 mis yn y carchar. Bydd yn rhaid iddo dalu gordal o £187. 

Dywedodd John Griffiths o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd cyflogwr Lucy Langmead yn ymddiried yn llwyr ynddi o ran cael mynediad at wybodaeth sensitif, ac fe wnaeth hi fradychu’r ymddiriedaeth honno.

“Gallai ei gweithredoedd fod wedi rhoi ymchwiliadau troseddol mewn perygl.

“Defnyddiodd Daniel Cozens ei berthynas â Langmead i geisio cael y llaw uchaf ar yr heddlu yn ei ymddygiad troseddol.

“Fodd bynnag, fe wnaeth y trywydd archwilio ar systemau cyfrifiadurol yr heddlu arwain yr ymchwilwyr atyn nhw, ac ynghyd â thystiolaeth arall, roedd hyn wedi galluogi Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno achos cryf i’r Llys a sicrhau bod y diffynyddion hyn yn cael eu dwyn gerbron y llys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.