Newyddion S4C

Beiciwr modur wedi ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych

03/06/2025
A5 Maerdy

Mae beiciwr modur wedi ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Maerdy yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A5 rhwng Corwen a Ty-nant tua 11.47 ddydd Mawrth.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys un cerbyd yn unig, sef beic modur Honda llwyd.

Dywedodd yr heddlu bod y beiciwr modur yn teithio gyda dau feiciwr modur arall i gyfeiriad y de.

Cafodd y beiciwr modur - dynes 69 oed - ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty lle mae hi'n parhau i gael triniaeth.
 
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod byr cyn ei hailagor.
 
Mae PC Einion Huws o'r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion. 
 
"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ger y lleoliad ac a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd i gysylltu â ni," meddai.
 
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod C081554.
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.