Gwacau ysgol uwchradd yng ngogledd Cymru ‘ar ôl dod o hyd i gemegau’
Mae ysgol uwchradd yn y gogledd ddwyrain wedi dweud eu bod nhw wedi gwagio’r adeilad “ar ôl dod o hyd i gemegau”.
Dywedodd Ysgol Uwchradd Dinbych, ysgol cyfrwng Saesneg yn y dref sy'n addysgu tua 500 o ddisgyblion, bod y cemegau “hanesyddol” wedi eu darganfod mewn cwpwrdd storio yn yr adran wyddoniaeth.
Mewn datganiad, dywedodd yr ysgol fod y penderfyniad wedi ei wneud er mwyn “diogelu pob aelod o gymuned yr ysgol”.
Fe deithiodd y disgyblion adref fel arfer ar ddiwedd y diwrnod ysgol, meddai llefarydd ar ran yr ysgol.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod cemegyn “allai achosi niwed” wedi ei ddarganfod.
Cafodd arbenigwyr eu galw er mwyn sicrhau bod y cemegyn yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn briodol, medden nhw.
Gadawodd y disgyblion a staff yr ysgol yn ddiogel, yn ôl y cyngor sir.