
Gofal diwedd oes yng Nghymru 'ar fin torri'
Gofal diwedd oes yng Nghymru 'ar fin torri'
Mae gofal diwedd oes yng Nghymru 'ar fin torri' yn ôl elusen Marie Curie.
Mae'r elusen yn darparu gofal arbenigol diwedd oes i bobl sydd â salwch y maen nhw'n debygol o farw ohono.
Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru a fydd yn cael ei hethol y flwyddyn nesaf i sicrhau fod gan bawb fynediad i ofal o ansawdd uchel 'yn y lle iawn ar yr amser iawn'.
Bydd yr elusen yn lansio ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026 yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, ddydd Mawrth.
Bu farw yr awdur ac un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gareth Miles, yn ei gartref yn Llanddarog yn Sir Gâr gyda'i deulu o'i gwmpas ym mis Medi 2023.
Cyn ei wythnos olaf, roedd wedi treulio 10 wythnos yn yr ysbyty, ac roedd yn byw â chlefyd Parkinson's.

Mae ei ferched, Elen, Branwen ac Eiry, yn cefnogi galwadau'r elusen am well gofal gartref i bobl sydd â chyflwr lliniarol neu ofal diwedd oes.
"Pan orweddodd e ar y gwely gartref, dywedodd e, "O, dyma braf" gan ei bod yn dawel ac yn heddychlon, roedd yr adar yn canu y tu allan ac roedd pobl yr oedd yn eu hadnabod o'i gwmpas," meddai Eiry.
"Pan ddaeth staff Marie Curie i aros dros nos, roedd cael rhywun yno yn eistedd gyda fe yn golygu y gallen ni gael seibiant a chysgu oherwydd doedden ni ddim wedi bod yn cysgu.
Ychwanegodd Elen: "Rwy’n meddwl ei fod yn adlewyrchu, yn anffodus, y diffyg cysylltiad sydd rhwng y GIG a gofal cymdeithasol. Yn anffodus, allai e ddim gadael yr ysbyty yn gynt ar ôl y gyfres gychwynnol honno o salwch i fynd i gartref mwy cyfforddus neu amgylchedd meddygol a oedd yn fwy addas iddo.
"Roedd yr amgylchedd yn olau ac yn swnllyd iawn, roedd y staff yn hyfryd, ond nid dyma oedd yr amgylchedd iawn iddo am yr holl wythnosau hynny."
Dywed Uwch-Reolwr Polisi Marie Curie Cymru, Natasha Davies: “Mae gofal diwedd oes yng Nghymru ar fin torri. Mae bylchau mewn gofal a system o dan bwysau difrifol yn golygu fod gormod o bobl yn gwario eu dyddiau olaf yn ynysig, mewn poen ac yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae gofalwyr ar eu hunain heb gymorth. Mae gwasanaethau a staff yn brwydro i ddarparu’r gofal sydd angen ar bobl, ble a phryd sydd angen. Mae yna angen brys am newid."