Pensiynwyr i dderbyn taliadau i helpu gyda biliau ynni
Fe fydd pensiynwyr yn dechrau derbyn taliadau gwerth hyd at £600 o ddydd Mercher ymlaen i helpu gyda'u biliau ynni.
Bydd mwy na 11.6 miliwn o bobl hyn yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf dros y ddau fis nesaf.
Fe fydd pensiynwyr yn derbyn mwy o arian fel rhan o'r taliadau eleni, wrth i Lywodraeth y DU gynnig rhagor o gefnogaeth mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.
Mae hyn yn golygu y bydd aelwydydd yn derbyn hyd at £300 ychwanegol i gymharu a blynyddoedd blaenorol.
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc pobl cymwys yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr.
Er hyn, dywedodd yr adran y dylai unrhyw un sydd heb dderbyn y taliad erbyn 13 Ionawr gysylltu gyda'r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.
"Rydym eisiau gwneud yr hyn yr ydym yn gallu i gefnogi pensiynwyr sydd yn aml y fwyaf bregus i gostau uwch," meddai'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Mel Stride.
"Dyna pam ni'n cynnig £300 ychwanegol ar ben y Taliadau Tanwydd Gaeaf er mwyn gwresogi eu tai ac aros yn dwym eleni."
Mae aelwydydd yng Nghymru sydd yn derbyn budd-daliadau penodol hefyd yn gallu derbyn taliad o £200 gan eu hawdurdod lleol, o dan gynllun gan Llywodraeth Cymru.