Dim ail refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban
Mae'r Goruchaf Lys wedi gwrthod cais Llywodraeth yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth ddydd Mercher.
Mewn dyfarniad unfrydol, dywedodd y Llys nad oedd gan Lywodraeth yr Alban y pŵer i alw refferendwm heb ganiatâd y Senedd yn San Steffan.
Dan arweinyddiaeth prif weinidog Nicola Sturgeon, roedd Llywodraeth yr Alban wedi dweud eu bod am gynnal refferendwm o'r newydd ar y mater ar 19 Hydref 2023.
Cafodd y refferendwm gyntaf ei chynnal yn 2014, gyda 55.3% yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth a 44.7% o blaid.
Ers hynny, mae polau piniwn yn awgrymu bod y bwlch rhwng y sawl sy'n cefnogi a gwrthwynebu annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig yn lleihau.
Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod caniatáu i refferendwm arall gael ei chynnal, gan ddweud fod y bleidlais wreiddiol yn un "unwaith mewn cenhedlaeth".
O ganlyniad, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gyfeirio'r achos at y Goruchaf Llys.
1/ While disappointed by it I respect ruling of @UKSupremeCourt - it doesn't make law, only interprets it.
— Nicola Sturgeon (@NicolaSturgeon) November 23, 2022
A law that doesn't allow Scotland to choose our own future without Westminster consent exposes as myth any notion of the UK as a voluntary partnership & makes case for Indy
Roedd llywodraeth Nicola Sturgeon wedi dadlau nad oedd rhaid cael caniatâd gan Senedd San Steffan er mwyn cynnal refferendwm.
Yn ôl Llywodraeth yr Alban, mae yna fandad i gynnal ail refferendwm, gan fod mwyafrif o aelodau Holyrood yn gefnogol o annibyniaeth.
Ond dywedodd y Goruchaf Lys fod y mater yn berthnasol i Senedd y Deyrnas Unedig ac felly nad oes modd i Lywodraeth yr Alban alw refferendwm heb sêl bendith San Steffan.
Yn ystod y dyfarniad, dywedodd llywydd y llys, yr Arglwydd Reed, fe fydd ail bleidlais yn berthnasol i "faterion neilltuedig" ac felly nid oes modd datganoli'r hawl i alw refferendwm.
Er gwaethaf y dyfarniad, mae Ms Sturgeon eisoes wedi dweud y bydd yr SNP yn defnyddio'r etholiad cyffredinol nesaf fel "refferendwm anffurfiol" os caiff y cais ei wrthod.
Mewn ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Sturgeon "ni fydd democratiaeth Albanaidd yn cael ei wrthod."
"Mae'r dyfarniad heddiw yn atal un llwybr i glywed llais Yr Alban ar annibyniaeth ond mewn democratiaeth, ni fydd ein llais yn cael eu tawelu."
Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Rishi Sunak ei fod yn falch fod gan Yr Alban un o'r "sefydliadau datganoledig mwyaf pwerus yn y byd".
Ond dywedodd fod pobl Yr Alban am i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r "heriau mawr" sy'n wynebu'r wlad ar hyn o bryd.
Llun: Prif Weinidog Yr Alban