Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i dde Cymru
Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi am wyntoedd dros ran helaeth o dde Cymru ddydd Llun.
Bydd 11 o siroedd yn cael eu heffeithio.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 06:00 ac 18:00.
Fe allai gwyntoedd gyrraedd rhwng 70–80 milltir yr awr mewn mannau arfordirol a rhwng 55-65 milltir yr awr mewn mannau mewndirol.
Fe allai gwyntoedd greu difrod i adeiladau gyda rhybuddion am effaith i bobl sy'n gyrru ar ffyrdd.
Mae yna bosibilrwydd o darfu ar gyflenwadau trydan hefyd yn ogystal ag oedi i wasanaethau trên neu fws.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
• Abertawe
• Bro Morgannwg
• Caerdydd
• Caerffili
• Casnewydd
• Castell-nedd Port Talbot
• Pen-y-bont ar Ogwr
• Rhondda Cynon Taf
• Sir Fynwy
• Sir Gâr
• Sir Benfro