Newyddion S4C

Wcráin: Rishi Sunak yn ymweld â Kyiv

The Independent 19/11/2022
Rishi Sunak a Volodymyr Zelensky

Mae prif weinidog y DU Rishi Sunak wedi ymweld ag arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky ddydd Sadwrn.

Dyma ei ymweliad cyntaf i’r wlad ers iddo gael ei benodi yn brif weinidog.

Dywedodd Arlywydd Zelensky: “Rydym wedi trafod y materion mwyaf pwysig i’r ddwy wlad ac am ddiogelwch byd eang.”

Dywedodd Mr Sunak fe fyddai’r DU yn parhau i gefnogi pobl Wcráin yn eu brwydr.

Mae Wcráin wedi bod yn gofyn am rhagor o gymorth gan wledydd y gorllewin wrth i ymosodiadau Rwsia ddwysau ar draws y wlad.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Swyddfa Arlywydd Wcráin

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.