Newyddion S4C

Cip olwg ar gemau nos Wener y JD Cymru Premier

Sgorio 18/11/2022
Caernarfon v Cei Connah

Wedi penwythnos prysur o gemau cwpan bydd y sylw’n troi ‘nôl at y gynghrair nos Wener gyda gemau allweddol i’w chwarae bob pen i’r tabl.

Cei Connah (2il) v Caernarfon (5ed) | Nos Wener – 19:45

Wedi 11 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth mae Cei Connah yn cadw’r pwysau ar y pencampwyr, ond er y rhediad rhagorol mae yna dal saith pwynt yn gwahanu’r Nomadiaid a’r Seintiau Newydd ar y brig.

Ar ôl ymuno â Chei Connah o Gaernarfon ym mis Medi mae’r blaenwr profiadol Mike Hayes wedi bod ar dân yn ddiweddar gan sgorio chwech o goliau yn ei bedair gêm ddiwethaf.

Daeth dwy o’r goliau rheiny yn erbyn Bae Colwyn y penwythnos diwethaf wrth i Gei Connah selio lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, a thaith i Lanelli sydd i’w ddod yn y rownd nesaf.

Mae Cei Connah wedi ennill eu 16 gêm gystadleuol ddiwethaf yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy gan ildio dim ond dwy gôl mewn 16 gêm gartref ers mis Chwefror, felly bydd hi’n gêm galed i Gaernarfon sydd heb ennill dim un o’u 10 gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah (colli 8, cyfartal 2).

Mae’r Cofis wedi colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, yn cynnwys eu colled yn erbyn Y Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru y penwythnos diwethaf, a dyw’r gemau’n dod dim haws i dîm Huw Griffiths sy’n wynebu Cei Connah, Y Drenewydd a’r Seintiau Newydd nesaf.

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ❌✅❌✅✅

Aberystwyth (8fed) v Pontypridd (11eg) | Nos Wener – 20:00

Lawr tua’r gwaelod dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 7fed a’r 11eg safle yn y frwydr i osgoi’r cwymp.

Mae Aberystwyth wedi ennill eu pedair gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair o 2-1, ond dyw tîm Anthony Williams heb ennill oddi cartref yn y gynghrair ers curo Airbus ar y penwythnos agoriadol (Air 1-2 Aber).

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, tra bod Ponty wedi sgorio pedair gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf oddi cartref, gan gynnwys eu buddugoliaeth yn Rhuthun yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru (Rhu 3-4 Pont).

Bydd Pontypridd yn teithio i’r Bala ar gyfer y bedwaredd rownd, ond doedd dim lle i Aberystwyth yn yr het yn dilyn eu colled yn erbyn y Drenewydd ddydd Sadwrn.

Mae Pontypridd wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, yn cynnwys eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn y Cymru Premier JD ym mis Awst (Pont 2-1 Aber).

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth:
❌✅ ❌✅❌
Pontypridd: ❌✅❌

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.