'Cau swyddfeydd' Twitter dros dro wrth i staff ystyried eu dyfodol

The Guardian 18/11/2022
S4C

Mae swyddfeydd Twitter ar gau tan ddechrau'r wythnos, wrth i lawer o weithwyr adael neu ystyried eu dyfodol.

Roedd perchenog newydd y cwmni, Elon Musk, wedi mynnu fod gweithwyr yn ymrwymo i weithio "oriau hir a dwys" os oeddynt am barhau i weithio iddo.

Mae cau swyddfeydd y cwmni'n awgrym fod llawer iawn mwy o weithwyr wedi dewis gadael yn hytrach nag aros dan arweinyddiaeth eu pennaeth newydd dadleuol.

Fe ddiswyddodd Elon Musk fwrdd rheoli Twitter ar ôl prynu'r cwmni'n ddiweddar, ac mae ei ffordd o reoli wedi taflu cwmwl ar ddyfodol y cwmni.

Mae llawer o ddefnyddwyr Twitter wedi dyfalu am ba hyd fydd y gwasanaeth yn parhau ar-lein wrth i staff ddewis gadael yn hytrach na gweithio i Mr Musk.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.