Joe Biden yn gwrthod honiadau Volodymyr Zelensky am daflegryn Gwlad Pwyl

Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, wedi gwrthod honiadau Volodymyr Zelensky nad oedd y taflegryn a darodd Gwlad Pwyl yn un o Wcráin.
Fe ddywedodd Arlywydd Wcráin ddydd Mercher nad "oes dim amheuaeth" mai nid Wcráin oedd yn gyfrifol am y taflegryn, a laddodd dau o bobl ar ôl taro fferm ym mhentref Przewodów sydd ar y ffin.
Ond mewn ymateb i sylwadau'r Arlywydd Zelensky, dywedodd yr Arlywydd Biden mai "nid dyna oedd y dystiolaeth".
Mae'r sefyllfa wedi codi pryderon bod Rwsia wedi ymosod ar diriogaeth NATO - rhywbeth y mae'r llywodraeth ym Moscow yn ei wadu.
Mae'r Arlywydd Biden hefyd eisoes wedi dweud ei fod yn annhebygol bod y taflegryn wedi'i saethu gan Rwsia.
Darllenwch fwy yma.