NATO: 'Tebygol' mai taflegryn Wcráin wnaeth daro gwlad Pwyl
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol NATO wedi dweud ei bod hi'n "debygol" mai taflegryn o Wcráin wnaeth daro Gwlad Pwyl.
Bu farw dau o bobl yn wedi i daflegryn daro pentref Przewodów, sydd ger y ffin ag Wcráin, ddydd Mawrth.
Dywedodd Ysgrifennydd NATO, Jens Stoltenberg mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher "nad Wcráin sydd ar fai, mae Rwsia yn cario'r cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd".
Dywedodd ei fod "yn bryderus" am yr adroddiadau am daflegryn yn taro Gwlad Pwyl ddydd Mawrth ac wedi ei "dristau" bod dau o bobl wedi marw.
Ychwanegodd nad oedd "unrhyw awgrym fod hwn o ganlyniad i ymosodiad bwriadol".
Ond ychwanegodd Mr Stoltenberg nad oedd "ymchwiliadau wedi dod i ben".
Llun: Heddlu Gwlad Pwyl