Apêl am wybodaeth flwyddyn ers diflaniad dynes o Fôn
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth flwyddyn union ers i ddynes o Gaergybi ym Môn gael ei gweld ddiwethaf.
Aeth Catrin Maguire ar goll ar 15 Tachewedd 2021.
Er yr ymdrechion gan yr heddlu i'w darganfod yn ardal Caergybi yn yr wythnosau wedi ei diflaniad, nid yw Ms Maguire wedi ei darganfod.
Wrth apelio am wybodaeth o'r newydd, dywedodd y Prif Arolygydd Gethin Jones o Heddlu'r Gogledd: "Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn parhau i ystyried fod Catrin Maguire ar goll.
"Mae fy meddyliau gyda theulu Catrin sydd heb, er mawr tristwch, gael gwybod beth ddigwyddodd iddi hi.
"Rwyf yn apelio am lygaid dystion oedd efallai wedi gweld Catrin i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth allai fod o gymorth i ni ddod o hyd i'r hyn ddigwyddodd iddi."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 101.