Newyddion S4C

Pryder am brinder tai rhent wrth i brisiau godi

14/11/2022

Pryder am brinder tai rhent wrth i brisiau godi

Pan gododd rhent Martha Ifan o £950 i £1,300 y mis, fe ddaeth hi a'i chariad i'r casgliad nad oedd hynny'n fforddiadwy.

Ar ôl penderfynu mai symud oedd yr opsiwn gorau, fe sylweddolodd y ddau bod dod o hyd i le i'w rentu yng Nghaerdydd yn anodd iawn.

Mae un gwerthwr tai yn dweud fod derbyn 126 o ymholiadau am dŷ teras tair ystafell am £1,050 y mis, yn "eithaf cyffredin" yn y brifddinas.

Mae ffigyrau gan y wefan eiddo Rightmove yn dangos bod costau rhentu yng Nghymru yn cynyddu'n gynt nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig heblaw Llundain.

Mae cyfraddau llog uchel, chwyddiant, diffyg tai, a landlordiaid yn gwerthu oherwydd rheolau newydd yn rhannol gyfrifol am y galw a'r costau cynyddol yn y farchnad rhent, yn ôl arbenigwyr.

Mae ffigyrau Rightmove hefyd yn dangos bod rhent am eiddo yng Nghaerdydd rhwng mis Gorffennaf a Medi eleni ar gyfartaledd yn £1,041, o'i gymharu â £870 yr un adeg y llynedd, sy'n gynnydd o 19.6%.

Yng Nghymru, mae'n awgrymu bod y gost am eiddo i'w rentu ar gyfartaledd yn £974 - 15% yn uwch na'r llynedd.

Ym mis Mai fe glywodd Martha a'i chariad y byddai eu rhent yn cynyddu £350.

"Oedd e'n dipyn o sioc," meddai. "Fe wnaethon ni feddwl am y peth a doedden ni jyst methu fforddio talu gymaint â hynny bob mis.

"Oedden ni'n goro' mynd ati wedyn ar bach o hast i ffeindio rhywle newydd a dyna pryd wnaethon ni ffeindio mas gymaint o her yw hi i ddod o hyd i rywle i fyw, i rentu yng Nghaerdydd."

Ychwanegodd bod y prisiau yn "silly o uchel" a bod ciwiau o bobl y tu allan i dai wrth iddyn nhw ymweld.

"Oedd e'n awyrgylch eithaf amhleserus," ychwanegodd.

Ar ôl tua wyth wythnos o chwilio fe gawson nhw le, ond mae eu profiad nhw yn gyffredin yn y brifddinas.

Does dim digon o dai a fflatiau ar gael i'w rhentu yng Nghaerdydd meddai'r gwerthwr tai, Gwyn Davies :  "Mae gormod o bobl yn edrych a does dim digon o dai a flats iddyn nhw symud mewn i.

"Mae'n dda i landlords achos mae lot o bobl yn dangos diddordeb, ond pan mae'n dod i'r tenant sy'n edrych, ma' fe'n anodd i ni i ddangos y llefydd i bawb."

Mae deddf newydd a fydd yn dod i rym yng Nghymru yn rhoi rhagor o hawliau i denantiaid.

Ond mae rhai yn dadlau y bydd Deddf Rhentu Tai Cymru yn gwneud pethau'n anos ac yn fwy cymhleth i landlordiaid.

Ac yng nghanol yr argyfwng ariannol gyda chostau byw yn cynyddu, does dim arwyddion y bydd y farchnad rhentu tai yn sefydlogi yn fuan. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.