Tad yn aros am dros dair blynedd am wersi nofio Cymraeg i’w blant
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Sir Wrecsam ar ôl i dad aros tair blynedd am wersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg i’w blant.
Yn ôl y Gymdeithas, gofynnodd Aled Powell i Gyngor Wrecsam am wersi nofio yn Gymraeg i’w blant yn 2019, ac mae’n dal i aros am gadarnhad o ddyddiad gan yr awdurdod.
Dywedodd Aled Powell, sy’n aelod o Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith: “Dw i wedi bod yn trafod efo Cyngor Wrecsam ers dros dair blynedd, dw i wedi cwyno wrth y Cyngor ac wrth Gomisiynydd y Gymraeg, a does dim byd sylfaenol wedi newid.
"Y dewis dw i wedi’i gael yn y bôn ydy gwersi nofio drwy’r Saesneg neu ddim gwersi nofio o gwbl.”
Ychwanegodd Mr Powell: “Mae Comisiynydd y Gymraeg ar eu trydydd ymchwiliad i mewn i’r mater ar hyn o bryd, ond yn y cyfamser mae fy mhlant i’n tyfu i fyny. Dw i ddim eisiau gwersi i ’mhlant ymhen blynyddoedd pan maen nhw yn yr ysgol uwchradd.
"Roedd Awen yn bedair pan ddechreuais i ofyn am wersi ac mae hi bellach yn saith, ac mae hi a’i chwaer fach yn gofyn bob wythnos pa bryd cawn nhw ddysgu nofio.”
Dywedodd Nia Marshall Lloyd ar ran Cell Wrecsam Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n rhyfeddol bod awdurdod lleol yn ymddwyn mewn ffordd mor ddi-hid pan mae rhieni’r ardal yn ceisio rhywbeth mor sylfaenol â gwersi nofio drwy’r Gymraeg i’w plant.
"Mater syml ydy hyn yn y bôn, ac mae’n amlwg mai’r prif rwystr ydy agwedd Cyngor Wrecsam tuag at y Gymraeg. Galwn ar arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, i dderbyn cyfrifoldeb am hyn ac ymyrryd ar unwaith er mwyn sicrhau bod gwersi nofio Cymraeg ar gael i blant y sir yn y flwyddyn newydd.”
Cwmni Freedom Leisure sydd yn rhedeg canolfannau hamdden yr awdurdod lleol.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth Newyddion s4c: “Rydym yn ymwybodol o’r mater a da ni’n gweithio gyda Comisiynydd y Gymraeg ac Freedom Leisure i’w datrys.”