Siom i Elfyn Evans yn Rali Siapan
13/11/2022
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi dod yn bumed ar ddiwedd Rali Siapan.
Roedd Evans yn yr ail safle ar ôl trydydd diwrnod y rali ddydd Sadwrn.
Fe gollodd Evans amser ar ôl cael twll mewn teiar ar yr ail gymal ddydd Sul gan orffen dros bedair munud ar ôl y buddugwr Thierry Neuville o Wlad Belg.
Mae hyn yn golygu fod Evans yn gorffen yn y pedwerydd safle yn y bencampwriaeth eleni ar 124 o bwyntiau gyda Kalle Rovanperä o’r Ffindir yn bencampwr ar 255 o bwyntiau.
Llun: Twitter/Elfyn Evans