Y Democratiaid yn cadw rheolaeth o’r Senedd yn yr UDA

Mae’r Democratiaid wedi dal eu gafael ar y Senedd yn yr UDA yn dilyn buddugoliaeth yn Nevada yn etholiadau canol tymor y wlad.
Mae disgwyl i Catherine Cortez Masto ennill yn erbyn y Gweriniaethwr Adam Laxalt, oedd yn cael ei gefnogi gan y cyn-arlywydd Donald Trump.
Dyma’r canlyniadau canol tymor gorau i’r Democratiaid mewn 20 mlynedd.
Dywedodd yr Arlywydd Biden ei fod yn “hynod hapus”.
Fe fydd gan y Democratiaid 50 o seddi gyda’r Gweriniaethwyr yn dal 49.
Mae'r etholiadau canol tymor ar gyfer dewis aelodau Tŷ’r Cynrychiolwyr a 35 o'r 100 sedd yn y Senedd, ac maen nhw'n cael eu hystyried fel ffordd o fesur poblogrwydd yr Arlywydd Joe Biden.
Roedd nifer wedi rhagweld y byddai'r Gweriniaethwyr yn ennill nifer fawr o seddi, gan gipio rheolaeth o'r Tŷ a'r Senedd gan y Democratiaid.
Darllenwch fwy yma.