Llysgenhadon yr Urdd yn cynnal sesiynau mewn ysgolion yn Qatar a Dubai
Ar drothwy cystadleuaeth Cwpan y Byd mae Urdd Gobaith Cymru yn danfon tîm o staff a llysgenhadon i Qatar.
Fe wnaeth tîm o 10 o aelodau staff a llysgenhadon ifanc yr Urdd deithio i Qatar i gynnal sesiynau chwaraeon, celfyddydol a diwylliannol mewn ysgolion yn Doha a Dubai ddydd Gwener.
Dywedodd yr Urdd y bydd y sesiynau yn cyflwyno Cymru, ei hiaith, diwylliant a'r wlad i gynulleidfa newydd. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 13-21 Tachwedd.
Rhwng 13-17 Tachwedd bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal sesiynau chwaraeon pêl-droed, aml chwaraeon a sesiynau hyfforddiant i blant allu arwain gemau iard mewn ysgol yn Doha.
Yn ogystal â'r sesiynau, bydd y plant yn cael eu cyflwyno i'r iaith Gymraeg drwy eirfa syml a byddant hefyd yn dysgu am ddiwylliant Cymru.
Mae’r sesiynau celfyddydol yn cael eu cynnal mewn ysgolion yn Qatar a Dubai. Dywedodd yr Urdd bydd bydd grwpiau yn y sesiynau yn cael y cyfle i berfformio ynghyd â chreu barddoniaeth a cherddoriaeth mewn gweithdai arbennig.
Ynghyd â’r cyfle i ddysgu mwy am Gymru a’r iaith Gymraeg bydd y sesiynau meithrin sgiliau newydd ac yn rhoi cyfle i’r plant glywed mwy am gynlluniau a phrosiectau celfyddydol yng Nghymru.
Mae’r daith yn un o dri phrosiect gan yr Urdd sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg ar draws y wlad ac yn rhyngwladol dros gyfnod cystadleuaeth Cwpan y Byd.