Newyddion S4C

Cyfres yr Hydref: 'Pwysau ar Gymru' yn erbyn Yr Ariannin

12/11/2022
Cymru

Fe fydd Cymru yn edrych i daro nôl wedi eu cweir yn erbyn Seland Newydd, wrth iddynt wynebu Yr Ariannin yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn. 

Cafodd y crysau cochion eu trechu 55-23 ddydd Sadwrn diwethaf, eu 33ed colled yn olynnol yn erbyn y Crysau Duon. 

Daw'r golled drom lai na blwyddyn cyn dechrau Cwpan y Byd, gan arwain nifer o gefnogwyr i gwestiynau os allai Gymru gystadlu gyda'r goreuon yn y byd er mwyn herio am y tlws. 

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac wedi dod o dan bwysau i sicrhau buddugoliaethau yn y gemau sy'n weddill yn ystod cyfres yr hydref. 

Ond ni fydd y sialens yn hawdd i Pivac a'i dîm yr wythnos hon chwaith. Mae Cymru yn croesawu tîm ffyrnig yr Archentwyr i'r Stadiwm y Principality, sydd newydd drechu Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd.

Bydd rhaid i Gymru fod yn barod am nifer o chwaraewyr Yr Ariannin, sydd yn cynnig cymysgedd o flaenwyr cryf ac olwyr profiadol.

Mae disgwyl y bydd sêr fel Pablo Matera, Julian Montoya ac Emiliano Boffelli, a wnaeth sgorio 25 pwynt yn erbyn Lloegr, yn bwysau cyson ar y crysau cochion. 

Mewn ymateb i'r golled yn erbyn Seland Newydd yn ogystal ag anafiadau o fewn y garfan, mae'r hyfforddwyr wedi arbrofi ychydig gyda'r tîm. 

Fe fydd Louis Rees-Zammit yn symud o'r asgell i safle'r cefnwr am y tro cyntaf yn ei yrfa dros Gymru. 

Yn ei le mae Alex Cuthbert yn dychwelyd i'r tîm, tra bod Rio Dyer yn cadw ei le ar yr asgell arall wedi iddo chwarae ei gêm gyntaf i Gymru wythnos diwethaf. 

Wrth i Rees-Zammit symud i safle anghyfarwydd, mae'n galluogi Gareth Anscombe i symud i safle'r maswr, ei safle gwreiddiol ar gyfer y gêm yn erbyn y Crysau Duon cyn i Leigh Halfpenny ddioddef anaf. 

Ymysg y blaenwyr, mae Tommy Reffel wedi'i anafu felly mae'r capten, Justin Tipuric, hefyd yn gallu symud nôl i'w safle arferol. Fe fydd Dan Lydiate yn cymryd ei le fel blaenasgellwr ochr dywyll tra bod Dillon Lewis hefyd wedi'i ychwanegu at y rheng flaen. 

Er gwaethaf y pwysau yn dilyn y golled diwethaf, mae hanes Cymru yn erbyn Yr Arianin yn cynnig ychydig o hyder. 

Mae Cymru wedi ennil rhan fwyaf o'u gemau yn erbyn yr Archentwyr, gan gynnwys pedwar o'r chwech diwethaf. 

Ond yn ddiweddar mae'r Arianin wedi cryfhau, ac ar daith i Gymru yn 2021, ni lwyddodd Cymru i'w trechu.

Mae hyn yn cynnwys y tro diwethaf i'r Arianin chwarae yng Nghaerdydd, gan ir ymwelwyr sicrhau buddugoliaeth 11-33. 

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd canolwr George North fod y "pwysau ar" Gymru i berfformio. 

"Ma' nhw'n dîm da, a ma' nhw isio dod yma i chwarae.Ar ôl dydd Sadwrn diwethaf yn erbyn Lloegr ma'n siŵr fydd nhw yn llawn hyder isio chwarae eto," meddai. 

"Ma' isio i'r blaenwyr fod yn gorfforol ac wedyn #obviously# chwarae gyda'r cryfder yn y cefn. Ond ma' nhw efo gem cicio hefyd.

"Ar ôl wythnos diwethaf yn erbyn Seland Newydd ma' gyd o'r pwysau ar ni i pwsio ymlaen rŵan a chwarae'n dda fory."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.