Heddwas wedi'i anafu wrth ymateb i brotest Just Stop Oil
Mae heddwas wedi'i anafu wrth ymateb i brotest gan ymgyrchwyr Just Stop Oil ar yr M25 ddydd Mercher.
Cafodd yr heddwas ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dwy lori rhwng cyffordd 26 a 27.
Fe ddigwyddodd hyn wedi i rwystr gael ei osod ar un rhan o'r ffordd yn dilyn adroddiadau bod pobl yn protestio yno.
Mae Just Stop Oil yn ymgyrch sydd yn ceisio dwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i atal trwyddedu a chynhyrchu tanwydd ffosil newydd.
Fe wnaeth rhai protestwyr ddrigo uwchben yr M25 ddydd Mercher, gan achosi rhagor o oedi i deithwyr wrth i'r ffordd gael ei chau mewn sawl man.
Dywedodd Heddlu Essex fod dau o bobl wedi'u harestio yn dilyn y protestio diweddaraf.
Llun: Heddlu Essex