I'm a Celebrity: Matt Hancock i ymuno â'r jwngl am y tro cyntaf
09/11/2022
Bydd Matt Hancock yn ymuno â'r jwngl am y tro cyntaf nos Fercher.
Daeth cadarnhad nos Fawrth mai cyn-ysgrifennydd Iechyd Lloegr fyddai'n wynebu'r treial nesaf ar y rhaglen.
Bydd yn cystadlu am fwyd i'r gwersyll gyda chymorth y comedïwr Seann Walsh sydd hefyd yn ymuno â'r gyfres ar yr un pryd.
Daw'r ddau i'r jwngl wedi i seren Love Island, Olivia Attwood, adael ar ôl diwrnod yn unig am resymau meddygol.
Dyma'r gyfres gyntaf o I'm a Celebrity ers tair blynedd i gael ei chynnal yn Awstralia wedi iddi fod yng Nghastell Gwrych yn Abergele yn ystod y pandemig.