Argyfwng costau byw 'yn ystyriaeth' i Gomisiwn Cymunedau Cymraeg
Mae'r argyfwng costau byw "yn ystyriaeth" i Gomisiwn Cymunedau Cymru wrth lansio'i ymgynghoriad, yn ôl y cadeirydd.
Bydd gan bobl eu cyfle cyntaf ddydd Mercher i ddweud eu dweud ar sut i warchod dyfodol cymunedau Cymraeg.
Mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i awgrymu ffyrdd o sicrhau bod cymunedau Cymraeg yn ffynnu.
Yn ôl y cadeirydd Dr Simon Brooks, mae'r sefyllfa o ran ynni yn "rhwym yn anffodus o 'neud pethau yn fwy anodd i bobl o ran byw o ddydd i ddydd".
“Mae’r cymunedau yma, cymunedau Cymraeg wedi gorfod wynebu sawl impact sosio-economaidd, sawl impact cymdeithasol na fyddwn ni efallai wedi gallu rhagweld," meddai.
"Yn amlwg, un ohonyn nhw ydy Covid. Ma’ hynny wedi arwain at gynnydd aruthrol mewn prisiau tai yn y cymunedau yna.
“A deud y gwir yn sgil Brexit a Covid gyda’i gilydd dwi’n credu sydd wedi creu cyd-destun lle ma’ ‘na newidiadau cymdeithasol wedi bod ac mae’n bwysig bod ni’n ymateb i rheiny mewn ffordd adeiladol er mwyn ceisio cryfhau cymunedau Cymraeg."
Bydd unrhyw ymateb gan y cyhoedd a mudiadau i'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lunio argymhellion y comisiwn i'r llywodraeth.
Ymhlith y pynciau eraill fydd yn hawlio sylw'r comisiwn mae tai ac addysg, yn ogystal â datblygiad cymunedol ac adfywio.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae’n un o ddau darged sy' gan y llywodraeth, un ydy cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond ma’ ‘na darged arall sef dyblu defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050," meddai Dr Brooks.
“Er mwyn cyrraedd y ddau darged yna, mae’n anodd iawn yn sicr cyrraedd yr ail darged heb bo chi’n cadw’r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw a mae hefyd wrth gwrs yn gwneud hi’n fwy anodd i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
"Pe bai cymunedau Cymraeg yn dirywio’n arw, ma’ hynny’n amlwg yn gwneud hi’n fwy anodd i gyrraedd y targed yna.
"Felly ‘dan ni’n gobeithio y bydd ein hargymhellion yn awgrymu modd posib o ymyrryd er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg at y dyfodol a bydd hynny wedyn yn llesol i’r Gymraeg drwy Gymru gyfan.”
Dywed y llywodraeth eu bod am "gryfhau cymunedau Cymraeg" er mwyn helpu gwireddu eu targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.
Bydd cyfle gan y cyhoedd i gyflwyno'u hymateb tan 13 Ionawr 2023.