Newyddion S4C

Rhys ab Owen AS wedi'i wahardd o Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd

08/11/2022
Rhys ab Owen

Mae'r Aelod o'r Senedd, Rhys ab Owen, wedi'i wahardd o Grŵp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd yn sgil honiadau ei fod wedi torri'r cod ymddygiad ar gyfer ASau. 

Dywedodd y blaid fod Mr ab Owen, sydd wedi cynrychioli Canolbarth De Cymru ers 2021, wedi'i wahardd tra bod Comisiynydd Safonau'r Senedd yn cynnal ymchwiliad. 

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd Mr ab Owen yn eistedd fel aelod annibynnol yn y Senedd tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal. 

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru o Blaid Cymru, a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd wedi cytuno ar y cyd i'w atal dros dro o grŵp Plaid Cymru.

"Mae hon yn weithred niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd.

"Ni fydd unrhyw sylw pellach yn cael ei gyhoeddi," ychwanegodd y llefarydd."

Llun: WikiCommons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.